Hyrwyddo'r Gymraeg
10 Ionawr 2017
Mae'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol wedi recriwtio myfyrwyr o Brifysgol Caerdydd i geisio annog rhagor o ddarpar fyfyrwyr i astudio rhan o'u cyrsiau gradd yn Gymraeg.
Bydd y llysgenhadon, sydd wedi'u lleoli mewn saith o brifysgolion ledled Cymru gan gynnwys Prifysgol Caerdydd, yn dechrau eu gwaith y mis hwn ac fe fyddant yn gyfrifol am gwblhau amrywiaeth o dasgau drwy gydol y flwyddyn.
Eu prif rôl fydd darbwyllo disgyblion ysgol i ddilyn rhan o'u hastudiaethau yn y brifysgol drwy gyfrwng y Gymraeg ac egluro'r manteision a ddaw yn sgîl hynny.
Byddant yn cynrychioli'r Coleg Cymraeg ar ymweliadau ysgolion, ffeiriau UCAS ac mewn eisteddfodau yn ogystal â chofnodi eu profiadau mewn blog newydd sbon.
Bydd blog ‘Llais y Llysgennad’ yn rhoi cipolwg ar eu bywydau trwy luniau a fideos.
Gwenllian Mair Jones, sy'n astudio'r Gyfraith ym Mhrifysgol Caerdydd, oedd un o'r rhai cyntaf ar y blog. Roedd hi'n falch iawn o gael y cyfle i astudio drwy gyfrwng y Gymraeg yn y brifddinas ar ôl gadael Ysgol Gyfun y Strade.
Meddai Gwenllian: "Mae gallu astudio pwnc mewn dwy iaith yn gwneud y dysgu'n haws. Hoffwn barhau i fyw yng Nghymru yn y dyfodol a dylai'r ffaith mod i'n gallu gweithio yn Gymraeg fod yn fuddiol."
Bydd angen i'r llysgenhadon ymgyfarwyddo â Chynllun Ysgoloriaethau Israddedig y Coleg Cymraeg hefyd a siarad am y cyfleoedd a ddaw yn sgîl astudio yn Gymraeg.
Mae blog y Coleg Cymraeg ar gael yma.