Trefniant i brynu yn ymwneud â chyffur Hepatitis
9 Ionawr 2012
Mae'r cwmni fferyllol Americanaidd enfawr Bristol-Myers Squibb wedi cytuno i brynu'r cwmni biotechnoleg Inhibitex o'r Unol Daleithiau, mewn cytundeb gwerth $2.5bn (£1.6bn) sy'n cynnwys INX-189, sef gwrth-gyffur hepatitis C addawol newydd a gafodd ei gynllunio a'i baratoi yn wreiddiol ym Mhrifysgol Caerdydd.
Mae'r pryniant yn golygu y bydd Bristol-Myers yn parhau i ddatblygu INX-189, sy'n gyffur Hepatitis C a grëwyd yn wreiddiol gan yr Athro Chris McGuigan yn Ysgol Fferylliaeth a Gwyddorau Fferyllol Cymru.
Yn ôl Sefydliad Iechyd y Byd, mae tua 170m o bobl yn cario firws Hepatitis C ledled y byd ac mae dros 350,000 yn marw o afiechydon cysylltiedig bob blwyddyn. Ar hyn o bryd mae INX-189 mewn treialon Cam II ac mae wedi dangos gweithgaredd gwrth-firol cryf ac ataliad cadarn i ymwrthedd.
Dywedodd yr Athro McGuigan: "Yng nghyfnod hynod addawol y cyffur hwn ar hyn o bryd, Bristol-Myers Squibb yw'r partner delfrydol ar gyfer symud ymlaen yn gyflym at gymeradwyaeth glinigol. Mae'r cwmni'n chwarae rhan sylweddol mewn fferylliaeth fyd-eang ac yn meddu ar arbenigedd mawr wrth wireddu potensial cyffuriau gwrthfirysol ymgeisiol. Mae'r pryniant hwn yn arwyddocaol iawn i Brifysgol Caerdydd, a all elwa'n ariannol ar bob cam o gynnydd y cyffur. Yn bwysicach fyth, bydd yn rhoi hwb ychwanegol i'n hymdrechion i gwblhau treialon o'r cyffur hwn, sydd â'r potensial i gynnig gobaith i gannoedd o filoedd o bobl sy'n dioddef o'r clefyd ofnadwy hwn ledled y byd."
Dywedodd Syr Chris Evans, Cadeirydd Excalibur Group a Chadeirydd Panel Sector Gwyddorau Bywyd Llywodraeth Cymru, "Mae datblygiad clinigol llwyddiannus y cyffur INX-189 a gwerthiant gwerth £1.6bn Inhibitex i BMS yn gamp ryfeddol ar ran yr Athro Chris McGuigan, ac yn weithred wych o ran masnacheiddio ar bob cyfrif. Mae'r ffaith bod yr Athro Chris McGuigan o Gaerdydd wedi creu INX-189 a lansiodd Inhibitex ar y sîn byd-eang dair blynedd yn ôl yn dangos y gwerth posibl enfawr sydd gan sector Gwyddorau Bywyd Cymru. Rwy'n falch iawn bod yr Athro McGuigan yn aelod o'm Panel ac rydym wedi adnabod ein gilydd ers bron i 20 mlynedd, ac mae ei brofiad yn y diwydiant hwn yn amhrisiadwy i Gymru wrth i ni ddatblygu ein Sector Gwyddorau Bywyd."
Dywedodd Lamberto Andreotti, Prif Swyddog Gweithredol Bristol-Myers Squibb: "Mae caffael Inhibitex yn adeiladu ar hanes hir Bristol-Myers Squibb o ddarganfod, datblygu a darparu meddyginiaethau newydd arloesol ym maes firoleg, ac mae'n cyfoethogi ein portffolio o feddyginiaethau ymchwiliol ar gyfer Hepatitis C. Mae angen meddygol sylweddol sydd heb ei ddiwallu o ran Hepatitis C. Mae'r caffaeliad hwn yn fuddsoddiad pwysig yn nhwf hirdymor y cwmni."
Dywedodd Russell Plumb, Llywydd a Phrif Swyddog Gweithredol Inhibitex: "Mae'r trafodiad hwn yn rhoi INX-189 ac asedau clefydau heintus eraill y Cwmni yn nwylo sefydliad a all eu datblygu nhw yn y modd gorau ac sydd yn credu'n gryf ym mhotensial INX-189 i drin HCV cronig. Mae arbenigedd Bristol-Myers o ran datblygu cyffuriau gwrthfirysol, a phortffolio ategol presennol y cwmni, yn sicrhau y caiff potensial INX-189 ei wireddu fel rhan o therapïau geneuol cyfunol y dyfodol i filiynau o gleifion sydd mewn angen ledled y byd."