Pam mae pobl yn ymweld â'u meddygon teulu gyda pheswch neu annwyd?
6 Ionawr 2017
Prifysgol Caerdydd a Doeth am Iechyd Cymru yn lansio arolwg newydd i geisio lleihau'r pwysau ar GIG Cymru yn y gaeaf
Mae ymchwilwyr yn Ysgol Meddygaeth Prifysgol Caerdydd yn gweithio gyda Doeth am Iechyd Cymru i geisio deall yn well pam mae rhai pobl yn mynd at eu meddyg teulu gyda mân anhwylderau fel peswch ac annwyd.
Maent yn gofyn i'r cyhoedd gymryd rhan mewn arolwg gan Doeth am Iechyd Cymru er mwyn rhannu eu profiadau a'u barn am y pwnc.
Bydd y wybodaeth a gesglir yn helpu ymchwilwyr, meddygon teulu a chynllunwyr gwasanaethau iechyd i gael gwell dealltwriaeth o'r ffyrdd mwyaf effeithiol o gefnogi pobl sydd â heintiau yn ystod cyfnod prysur y gaeaf.
Dywedodd Dr Nick Francis, Arweinydd yr Astudiaeth yn Ysgol Meddygaeth Prifysgol Caerdydd a meddyg teulu yn ne Cymru:
“Mae'r gaeaf wastad yn gyfnod prysur dros ben i'r GIG yng Nghymru. Mae cynnydd mawr yn y galw ar feddygon teulu sy'n gweld nifer uwch o bobl sydd am gael triniaeth ar gyfer peswch, annwyd, dolur gwddf a heintiau stumog. Os gallwn ddeall beth yw'r ffyrdd gorau o gefnogi cleifion i reoli'r afiechydon hyn eu hunain, neu gyda chymorth eu fferyllydd lleol, bydd hyn yn lleihau'r pwysau ar feddygfeydd, adrannau damweiniau ac achosion brys, ac ysbytai."
Mae Doeth am Iechyd Cymru yn brosiect ymchwil unigryw sy'n ceisio defnyddio gwybodaeth gan y cyhoedd i helpu'r GIG i gynllunio ar gyfer y dyfodol. Gofynnir i bawb 16+ oed sy'n byw yng Nghymru roi deng munud o'u hamser i lenwi arolwg cyfrinachol ar-lein ddwywaith y flwyddyn. Nod y prosiect yw recriwtio 260,000 o bobl dros bum mlynedd i greu darlun o anghenion iechyd y genedl yn y dyfodol drwy gasglu gwybodaeth fanwl am amrywiaeth o bynciau iechyd gan bobl o bob oed a chefndir.
Meddai'r Athro Shantini Paranjothy o Ysgol Meddygaeth Prifysgol Caerdydd ac Arweinydd Gwyddonol Doeth am Iechyd Cymru:
"Mae Doeth am Iechyd Cymru yn cynnig cyfle unigryw i gasglu data a chynnal ymchwil fydd yn llywio sut gallwn gynnig gofal iechyd effeithlon ac effeithiol sy'n diwallu anghenion y bobl sy'n byw yng Nghymru. Mae angen nifer fawr o bobl arnom i gymryd rhan a rhoi eu barn er mwyn i ni gael gwybodaeth gadarn y gallwn ei defnyddio i wella sut y cyflwynir gwasanaethau gofal iechyd."