Cydnabyddiaeth Frenhinol
3 Ionawr 2017
Mae ffigurau blaenllaw o gymuned y Brifysgol wedi cael cydnabyddiaeth frenhinol ar Restr Anrhydeddau'r Frenhines ar gyfer y Flwyddyn Newydd.
Cafodd yr Athro Hywel Thomas, Dirprwy Is-Ganghellor y Brifysgol ar gyfer Ymchwil, Arloesedd ac Ymgysylltu, anrhydedd CBE am ei gyfraniad 'rhagorol' at ymchwil academaidd, a'i wasanaethau ym maes addysg uwch.
Mae'r Athro Thomas yn arwain gweithgareddau ymchwil ac arloesi'r Brifysgol, gan gynnwys masnacheiddio ac effaith economaidd ehangach y Brifysgol.
Mae ei ddiddordebau ymchwil yn cwmpasu ystod eang o faterion geoamgylcheddol, gan gynnwys problemau llif amlffiseg/geocemeg mewn pridd a chreigiau, a materion cynaliadwyedd yn gyffredinol.
Ffocws pwysig yn ei waith yw gwaredu gwastraff niwclear lefel uchel yn ddaearegol. Mae ei ddiddordebau presennol yn cynnwys maes geoynni, gyda phrosiectau mawr ynglŷn â gwres o'r ddaear, nwyeiddio glo tanddaearol, defnydd o nwy anghonfensiynol ac atafaelu carbon mewn semau glo.
Yn ystod ei yrfa academaidd, mae wedi cynhyrchu dros 400 o bapurau ac adroddiadau technegol ac wedi darlithio'n eang gartref a thramor. Cafodd yr Athro Anita Thapar, o'r Ysgol Meddygaeth, CBE hefyd am ei gwasanaethau ym maes seiciatreg plant ac oedolion.
Yr Athro Thapar sy'n arwain adran academaidd Seiciatreg Plant ac Oedolion y Brifysgol yn yr Is-Adran Meddygaeth Seicolegol a Niwrowyddorau Clinigol, ac yn cyfarwyddo'r grŵp anhwylderau datblygiadol yng Nghanolfan MRC flaenllaw y Brifysgol ar gyfer Geneteg a Genomeg Niwroseiciatrig.
Mae ei hymchwil yn canolbwyntio ar darddiad, datblygiad a chymhlethdodau anhwylderau niwroddatblygiadol, ac mae ganddi ddiddordeb penodol mewn cyfraniad/cydadweithio datguddiadau amgylcheddol cynnar a risgiau genetig. Cafodd yr Athro Wen Jiang, sydd hefyd yn rhan o'r Ysgol Meddygaeth, anrhydedd MBE am ei gyfraniad at ymchwil canser ryngwladol.
Mae'r Athro Jiang wedi bod â diddordeb mewn metastasis canser ers tro. Ei brif ddiddordeb ymchwil yw'r sail foleciwlaidd a chellog i oresgyniad a metastasis canser, ac agweddau therapiwtig ar dargedu metastasis canser.
Fel rhan o'i waith ymchwil mae wedi cydweithio'n eang gyda chydweithwyr yn y DU, Tsieina, Ewrop, Gogledd America ac Asia. Mae hefyd yn chwarae rhan flaenllaw mewn ymdrechion y Brifysgol i ddatblygu cysylltiadau academaidd gyda rhai o brifysgolion gorau Tsieina.
Wrth groesawu'r newyddion, dywedodd yr Is-Ganghellor, yr Athro Colin Riordan: "Ar ran y Brifysgol gyfan, hoffwn longyfarch yr unigolion sydd wedi cael anrhydedd.
"Rydw i wrth fy modd bod eu cyfraniadau rhagorol wedi cael eu cydnabod."