Prifysgolion Cymru yn chwilio am arweinwyr ymchwil y dyfodol
3 Ionawr 2017
Rhaglen arloesol Crwsibl Cymru yn dechrau’r cylch nesaf o recriwtio ymchwilwyr rhagorol ledled Cymru
Mae Crwsibl Cymru yn annog ymchwilwyr rhagorol ledled Cymru i gyflwyno cais ar gyfer rhaglen eleni.
Dyma chweched flwyddyn Crwsibl Cymru erbyn hyn. Mae'r rhaglen yn cynnig y cyfle i ymchwilwyr feithrin eu sgiliau personol, proffesiynol ac arwain er mwyn bod yn arweinwyr ymchwil y wlad yn y dyfodol.
Mae 30 o leoedd ar gael i gyd ar y rhaglen, sy'n cynnwys tri gweithdy dwys, neu 'labordai sgiliau', deuddydd o hyd. Mae'r rhain yn cynnwys siaradwyr gwadd ysbrydoledig, seminarau, sesiynau sgiliau a thrafodaethau anffurfiol.
Bydd y gweithdai yn canolbwyntio ar sut gall y rhai sy'n cymryd rhan elwa ar weithio gydag ymchwilwyr o ddisgyblaethau eraill, sut i gynyddu effaith eu gwaith ymchwil, a sut i ddilyn gyrfaoedd ymchwil rhyngwladol yng Nghymru.
Enillodd rhaglen Crwsibl Cymru Wobr Addysg Uwch y Times am Gyfraniad Rhagorol at Ddatblygu Arweinyddiaeth yn 2013, a dywedodd y beirniaid ei bod yn "trawsnewid agweddau ac ymddygiad". Consortiwm o brifysgolion Cymru, Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru a Llywodraeth Cymru sy'n ariannu'r rhaglen.
"Mae'r rhaglen yn cynnig llu o fanteision i'r rhai sy'n cymryd rhan ynddi," meddai Sara Williams, Rheolwr y Rhaglen. "Mae Crwsibl Cymru yn helpu i ddatblygu rhwydwaith agos o gyfoedion o'r un natur. Mae hefyd yn herio pobl i feddwl y tu hwnt i'w ffiniau gwaith presennol fel eu bod yn cael rhagor o arbenigedd a chyfleoedd gwych i ddatblygu eu gyrfaoedd."
Eleni, mae tîm Crwsibl Cymru yn annog mwy o ymchwilwyr nad ydynt yn gweithio i brifysgolion i gyflwyno cais, p'un ai ydynt o fyd busnes, diwydiant, elusen neu'r sector cyhoeddus.
Cymerodd Fiona Robinson, sy'n Arbenigwr Datblygu yn Cogent Power Ltd, yn Crwsibl Cymru yn 2012, ac mae'n canmol y rhaglen am gynnig cyfleoedd na fyddai wedi bod ar gael yn ei gwaith bob dydd.
Dywedodd: "Mae Crwsibl Cymru wedi rhoi cyfle i mi gwrdd ag ymchwilwyr o ddisgyblaethau eraill na fyddwn wedi cwrdd â nhw fel arall, yn enwedig gwyddonwyr cymdeithasol".
"Mae Crwsibl Cymru wedi cael yr effaith ar lefel bersonol yn bennaf, yn enwedig o ran fy ngwneud yn fwy hyderus ynghylch perthnasedd a gwerth fy ymchwil. Ers cymryd rhan yn y rhaglen, rydw i wedi cyhoeddi nifer o erthyglau mewn cyfnodolion proffesiynol. Rydw i hefyd wedi creu rhwydwaith technegol ar gyfer ôl-raddedigion diwydiannol yn ne Cymru, ac mae wedi creu cysylltiadau newydd y tu allan i fy sefydliad."
Bydd Prifysgol Caerdydd yn cynnal dau ddigwyddiad i roi'r cyfle i ymchwilwyr gael gwybod rhagor am y rhaglen. Cynhelir y cyntaf o'r rhain ddydd Mercher, 8 Chwefror, 12:00-2:00pm ym Mhrif Adeilad y Brifysgol, a chynhelir yr ail ddigwyddiad ddydd Llun, 13 Chwefror, 12:00-2:00pm ar Gampws Parc Mynydd Bychan y Brifysgol. Caiff digwyddiadau tebyg eu cynnal mewn prifysgolion eraill ledled Cymru.
Mae rhagor o wybodaeth ar gael i ymgeiswyr yn http://www.welshcrucible.org.uk/