Sicrhau cyflenwad o fetelau hanfodol
4 Ionawr 2012
Bydd cynhadledd ryngwladol yng Nghaerdydd o dan ofal Prifysgol Caerdydd ac Amgueddfa Cymru yn clywed yr wythnos hon y gall cais Cymru i ddod yn arweinydd mewn technolegau carbon isel fod 'mewn perygl' oni bai y bydd gweithredu i fynd i'r afael â'r prinder yn y cyflenwad o fetelau hanfodol a gaiff eu defnyddio mewn cludiant carbon isel a chyflenwi ynni gwynt.
Bydd academyddion o Ysgol Gwyddorau'r Ddaear a'r Môr a'r Amgueddfa yn ymuno ag arbenigwyr rhyngwladol yn y Brifysgol a'r Amgueddfa Genedlaethol i fynd i'r afael â'r heriau yn ymwneud â chyflenwad mwynau cyfredol y byd, gan gynnwys metelau sy'n hanfodol ar gyfer cymdeithas fodern a thechnolegau gwyrdd sy'n dod i'r amlwg.
"Mae rhai metelau yn anhepgor ar gyfer technolegau modern, megis trawsnewidyddion catalytig ym mhob car, cyffuriau trin canser, ac electromagnetau cenhedlaeth newydd a chelloedd tanwydd. Dychmygwch fyd heb ffônau symudol â sgrin gyffwrdd, dim cyfrifiaduron tabled neu fonitorau sgrin fflat - dyna pa mor hanfodol y mae'r metelau hyn i fywyd bob dydd," dywedodd Dr Iain McDonald o Ysgol Gwyddorau'r Ddaear a'r Môr, sy'n arbenigwr mewn geocemeg.
"Mae dau grŵp pwysig o fetelau, a elwir yn Elfennau Daear Prin (REE) ac Elfennau Grŵp-Platinwm (PGE), yn aelodau allweddol o'r "metelau strategol" hyn oherwydd eu pwysigrwydd a'u cyflenwad cyfyngedig. Er enghraifft, mae 97% o gynnyrch REE y byd yn dod o un wlad, sef Tsieina. Ac mae tua 80% o'r platinwm a'r rhodiwm a gaiff eu defnyddio mewn awtocatalyddion a chelloedd tanwydd modern yn dod o un ffynhonnell, sef De Affrica."
Mae REE a PGE yn hanfodol i helpu gwledydd fel Cymru liniaru effeithiau newid yn yr hinsawdd drwy ddefnyddio technoleg werdd i ddatblygu cludiant carbon isel a chynhyrchu trydan o ffynonellau megis gwynt.
Ychwanegodd Dr McDonald: "O ystyried yr oruchafiaeth gyfyngedig iawn sy'n bodoli o fewn y farchnad ar gyfer y nwyddau hyn, byddwn yn agored i gyfyngiad ar gyflenwad, a all effeithio'n uniongyrchol ar ein gallu i ddatblygu'r technolegau newydd hyn ar y raddfa sy'n angenrheidiol er mwyn cyflawni ein targedau lleihau carbon a addawyd. Mae hyn bellach wedi cael ei gydnabod gan y llywodraeth, sydd wedi lansio menter newydd gwerth £ 7m - y Rhaglen Sicrhau Cyflenwad Mwynau - o dan nawdd Cyngor Ymchwil yr Amgylchedd Naturiol."
"Mae Prifysgol Caerdydd ac Amgueddfa Cymru, ar y cyd â chymdeithas dyddodion mwynau mwyaf blaenllaw'r DU, yn rhoi llwyfan i rai o arbenigwyr pennaf y byd ar fwynau o'r byd academaidd a diwydiant, er mwyn canfod nid yn unig sut i ddarganfod cyflenwadau newydd o'r adnoddau mwynau hanfodol hyn, ond hefyd sut i'w hechdynnu mewn ffordd effeithlon i'n helpu ni i gyflawni ein huchelgais ynni gwyrdd. Hefyd, hon fydd y gynhadledd gyntaf ble gall cymuned geowyddoniaeth y DU fwydo syniadau ar gyfer datblygu'r Rhaglen Mwynau newydd."
Dywedodd Dr Richard Bevins, Ceidwad Daeareg yn Amgueddfa Cymru: "Rydym yn croesawu'r geowyddonwyr yn gynnes i'r gynhadledd hynod bwysig hon, yn enwedig y rhai sydd yn ymuno â ni o lu o wledydd tramor, gan wneud y cyfarfod hwn yn gyfarfod gwirioneddol ryngwladol."
Bydd 35ain Cyfarfod Blynyddol Grŵp Astudiaethau Dyddodion y Gymdeithas Ddaearegol yn cael ei gynnal ym Mhrifysgol Caerdydd ac Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd rhwng dydd Mawrth 3 Ionawr a dydd Gwener 6 Ionawr. Sesiwn graidd y cyfarfod yw "Sicrhau Metelau Strategol ar gyfer yr Economi Carbon Isel".