Ewch i’r prif gynnwys

Brwydro yn erbyn canser mwyaf angheuol y Deyrnas Unedig

3 Ionawr 2012

Prof Ole

Bydd trywydd addawol yn y frwydr yn erbyn pancreatitis a chanser pancreatig yn cael ei archwilio ymhellach yng Nghaerdydd, diolch i gyllid newydd sylweddol gan y Cyngor Ymchwil Meddygol (MRC).

Gall pancreatitis ddatblygu pan fydd yr ensymau sy'n angenrheidiol ar gyfer treulio yn troi ar y pancreas ei hun. Mae pancreatitis cronig yn cynyddu'r risg o ganser pancreatig, sydd â'r gyfradd isaf o ran goroesi am bum mlynedd o blith yr holl ganserau cyffredin yn y DU. Yfed llawer o alcohol a cherrig y bustl yw achosion mwyaf cyffredin pancreatitis.

Y llynedd, fe wnaeth yr Athro Ole Petersen a chydweithwyr yn Ysgol y Biowyddorau ddatgelu y gallai protein o'r enw 'calmodulin' amddiffyn y pancreas yn erbyn effeithiau alcohol. Mewn celloedd heb calmodulin, mae alcohol yn cyflymu adwaith cadwynol sy'n gwneud i gelloedd ddinistrio'u hunain, gan arwain at pancreatitis ac, o bosibl, at ganser pancreatig. Hefyd, fe wnaeth y tîm ddarganfod moleciwl tebyg i galsiwm a allai hybu amddiffyniad naturiol y pancreas rhag ensymau treulio. Mae'r darganfyddiadau hyn newydd gael eu hamlygu yn adolygiad yr MRC o ddatblygiadau mwyaf arwyddocaol 2011.

Nawr, mae tîm yr Athro Petersen wedi sicrhau Grant Rhaglen MRC gwerth £2 filiwn i archwilio ymhellach botensial y modiwl tebyg i galsiwm. Dros y pum mlynedd nesaf, byddant yn profi ei allu i amddiffyn rhag ensymau mewn nifer o amgylchiadau y mae'n hysbys eu bod yn sbarduno pancreatitis. Hefyd, bydd y tîm yn archwilio celloedd arbennig yn y pancreas o'r enw celloedd serennaidd (stellate). Ychydig sy'n hysbys am gelloedd serennaidd, ond mae'n bosibl mai'r rhain yw'r cysylltiad rhwng pancreatitis cronig a datblygiad canser pancreatig.

Mae Cadair Athro MRC yr Athro Petersen hefyd wedi cael ei hadnewyddu – yr unig un o'i math yng Nghymru. Meddai: "Mae'r rhain yn brosesau moleciwlaidd hynod gymhleth ond rydym o'r farn eu bod yn hanfodol i'n dealltwriaeth o'r clefydau poenus a thrallodus hyn. Ein nod yw nodi ffyrdd o reoli'r prosesau hyn er mwyn helpu atal a thrin pancreatitis acíwt . Hefyd, gobeithiwn adeiladu ar ein gwybodaeth bresennol i ddeall celloedd serennaidd yn well a rhwystro dechrau canser pancreatig. Rydym yn hynod ddiolchgar i'r MRC am eu cefnogaeth a'u hanogaeth i'r llwybr ymchwil addawol hwn."

Rhannu’r stori hon