Lleihau'r bwlch anableddau
22 Rhagfyr 2016
Mae tîm o ymchwilwyr Prifysgol Caerdydd yn arwain y drafodaeth ynglŷn â lleihau'r bwlch cyflogaeth i bobl anabl yn y DU.
Cynhaliwyd cynhadledd yn ddiweddar – Cau Bylchau i Bobl Anabl ym Myd Gwaith – a drefnwyd gan Ysgol y Gwyddorau Cymdeithasol ac Ysgol Busnes Caerdydd, i lywio ymateb amryw sefydliadau i'r Papur Gwyrdd a gyflwynwyd gan Lywodraeth y DU fel cam cyntaf at gyrraedd eu targed i haneru'r bwlch rhwng cyfraddau cyflogaeth pobl anabl a phobl nad ydynt yn anabl erbyn diwedd cyfnod y llywodraeth bresennol.
Mae hefyd wedi dod â gwahanol fathau o sefydliadau at ei gilydd sydd â diddordeb mewn gwella bywydau pobl anabl, megis y corff ambarél Disability Rights UK ac elusennau sy'n gweithredu ledled Prydain fel Cymorth Canser Macmillan.
Agorwyd y gynhadledd gyda chyflwyniadau allweddol gan y Fonesig Athro Carol Black, ymgynghorydd arbennig Llywodraeth y DU ar waith ac iechyd, a Nicola Gilpin, Arweinydd Dadansoddi yn Uned Gwaith ac Iechyd Llywodraeth Prydain.
Yna, cynhaliwyd sesiynau i dynnu sylw at y gwaith ymchwil a wneir ym Mhrifysgol Caerdydd ar gyfer gweithwyr anabl a'r bwlch cyflogaeth i bobl anabl, ynghyd â phedwar gweithdy a ganolbwyntiodd ar syniadau ar gyfer polisïau ac arloesi ym maes ymarfer.
Yr Athro Ralph Fevre o Ysgol y Gwyddorau Cymdeithasol a’r Athro Melanie Jones, yr Athro Victoria Wass, a Dr Deborah Foster o Ysgol Busnes Caerdydd. Dywedodd Ralph: "Yr hyn rydym wedi'i ddysgu o'r gynhadledd yw bod llawer o waith yn mynd rhagddo, ac nid oes modd, o reidrwydd, i'r sefydliadau sy'n gyfrifol rannu'r gwaith hynny â sefydliadau eraill yn eu sector eu hunain. At hynny, mae rhannu'r gwaith â'r rhai sydd y tu hwnt i'w sector yn anoddach fyth..."
"Er enghraifft, mae therapyddion galwedigaethol yn gwneud gwaith rhagorol gyda Chymorth Canser Macmillan ond mae'n rhaid rhannu'r hyn a ddysgir drwy wneud y gwaith hwn yn eang."
Mae'r gynhadledd yn ddechrau proses ar gyfer y tîm ym mhrosiect Partneriaethau sy'n Seiliedig ar Dystiolaeth ynglŷn â Chyflogaeth Pobl Anabl (DEEPEN) Prifysgol Caerdydd, ac maent yn gobeithio defnyddio'r ymchwil berthnasol gan Ysgol y Gwyddorau Cymdeithasol ac Ysgol Busnes Caerdydd fel modd o ehangu gwaith cydweithredol rhwng yr holl sefydliadau a gynrychiolwyd yn y gynhadledd, ynghyd â rhanddeiliaid eraill â buddiant.