Kier i wneud gwaith adeiladu cynnar ar y campws
21 Rhagfyr 2016
Mae Kier wedi'i gadarnhau fel y cwmni dewisol i wneud y gwaith adeiladu cychwynnol yng Nghampws Arloesedd (CIC) Prifysgol Caerdydd.
Bydd y cwmni, sy'n grŵp gwasanaethau eiddo, preswyl ac adeiladu blaenllaw, yn helpu i gyflwyno prosiect £135m CIC Caerdydd sy'n cynnwys dau adeilad newydd.
Bydd un ohonynt yn gartref i SPARK, parc ymchwil gwyddoniaeth cymdeithasol cyntaf y byd a'r Ganolfan Arloesedd - gofod creadigol ar gyfer dechrau busnes, cwmnïau deillio a phartneriaethau.
Bydd y llall yn gartref i ddau sefydliad ymchwil gwyddonol blaenllaw - Sefydliad Lled-ddargludyddion Cyfansawdd a Sefydliad Catalysis Caerdydd.
Mae disgwyl i'r gwaith ddechrau ar y safle yn gynnar yn 2017 a bod wedi'i gwblhau yn 2018. Mae'r cynllun hefyd yn cynnwys pont fydd yn cysylltu Ysgol Busnes Caerdydd a Chanolfan Arloesedd Caerdydd.
Mae Kier wedi ymrwymo i gefnogi cyflogaeth, hyfforddiant, prentisiaethau a chyfleoedd i ddatblygu yn yr ardal leol.
Mae hyn yn cynnwys cyflogaeth leol a chyfleoedd i ddatblygu sgiliau, is-gontractio busnesau bach a chanolig lleol, yn ogystal â chynnig cyfleoedd i bobl ifanc drwy brentisiaethau.
Caiff myfyrwyr Prifysgol Caerdydd y cyfle i gael lleoliadau gwaith fydd yn rhoi profiad ymarferol iddynt o'r gwahanol swyddi sydd ar gael yn y diwydiant adeiladu.
Meddai'r Athro Hywel Thomas, Dirprwy Is-Ganghellor, Ymchwil, Arloesedd ac Ymgysylltu: "Rydym yn falch iawn o gydweithio â Kier fel y cwmni dewisol ar Gampws Arloesedd Caerdydd..."
Meddai Anthony Irving, Rheolwr Gyfarwyddwr, Kier Construction Western & Wales: "Mae'r cytundeb hwn yn cyfuno ein profiad cenedlaethol sy'n arwain y sector ym maes gwyddoniaeth a thechnoleg ac yn manteisio ar bresenoldeb amlwg Kier yng Nghaerdydd ac yn ehangach ledled Cymru..."
Mae gan Kier enw da am gyflwyno prosiectau yng Nghaerdydd gan gynnwys adeiladu Arena Iâ Cymru, cartref tîm hoci iâ Cardiff Devils.