Troi clust i glywed
21 Rhagfyr 2016
Mae o fudd i wrandawyr mewn sefyllfa swnllyd wynebu ychydig i ffwrdd o'r person maen nhw'n gwrando arno, gan droi un glust at y llais, yn ôl casgliad astudiaeth gan Brifysgol Caerdydd, a gyllidwyd gan elusen y DU Action on Hearing Loss (RNID).
Canfuwyd fod y dacteg hon yn arbennig o fuddiol i bobl oedd â mewnblaniad yn y cochlea, sy'n tueddu i brofi anawsterau mewn llefydd swnllyd fel tai bwyta.
Roedd hefyd yn gydnaws â darllen gwefusau, gan nad oedd troi'r pen 30 gradd yn effeithio ar hynny, gan ddangos felly bod modd cyfuno buddiannau darllen gwefusau a throi clust at y siaradwr.
Dywedodd Dr Jacques Grange o Ysgol Seicoleg Prifysgol Caerdydd: "Gall sŵn fod yn broblem fawr i unrhyw wrandäwr, ac yn enwedig rhywun sydd â mewnblaniad y cochlea..."
“Mae'n well cael signal clir mewn un glust na signal tila yn y ddwy glust."
Pan gafodd ei phrofi yn y labordy, gyda'r siaradwr o flaen y gwrandäwr a sŵn yn amharu o’r tu ôl, arweiniodd y dechneg hon at welliant o 4 desibel o ran eglurder lleferydd mewn amgylchedd swnllyd i wrandawyr oedd â chlyw normal a defnyddwyr mewnblaniad y cochlea. Gall gwelliant o 4 desibel olygu'r gwahaniaeth rhwng deall dim byd a deall yn berffaith.
Dywedodd Dr Ralph Holme, Pennaeth Ymchwil Biofeddygol Action on Hearing Loss: “Rydym ni hefyd yn ymgyrchu ar i fariau, tai bwyta a chaffis wneud mwy i wella eu hacwsteg i'w gwneud yn haws i bobl sydd wedi colli eu clyw gynnal sgwrs."
Er mwyn efelychu sefyllfa wrando realistig mewn tŷ bwyta, gwnaed mesuriadau acwstig hefyd yn nhŷ bwyta Mezza Luna yng Nghaerdydd a'u defnyddio i greu efelychiad acwstig rithwir. Yn yr efelychiad profwyd gwrandawyr oedd â chlyw normal ar bob bwrdd gyda thri gogwydd pen gwahanol: yn wynebu'r siaradwr targed, troi'r pen 30 gradd i'r chwith a throi'r pen 30 gradd i'r dde.
Dangosodd y data fod budd sylweddol yn deillio o droi pen o hyd gyda'r lefel uchel hon o realaeth.
Mae'r ddau arbrawf yn caniatáu i gasgliadau gael eu gwneud am effaith achosol troi pen ar ddealltwriaeth o sgwrsio yn y labordy ac yn y byd real.