Lleoliad Proffesiynol i fyfyriwr
20 Rhagfyr 2016
Mae cwmni Lexington Corporate Advisors wedi partneru gydag Ysgol Busnes Caerdydd a Phrifysgol Caerdydd i gynnig interniaethau i fyfyrwyr sy'n ymdrechu i greu effaith yn y byd cyllid corfforaethol.
Fel rhan o'r fenter, mae Alexandra Ross wedi ymuno â'r cwmni fel Dadansoddwr Ymchwil Cyllid Corfforaethol.
Mae Alexandra yn ei hail flwyddyn yn astudio gradd Rheolaeth Busnes (BSc). Mae hi eisoes wedi cymhwyso'n rhannol fel Technegydd Cyfrifyddu ar ôl sefyll arholiadau ATT cyn astudio am ei gradd ac mae'n gobeithio mynd i'r proffesiwn cyllid corfforaethol ar ôl graddio.
Dywedodd y cyd-sylfaenydd Mr Gary Partridge: "Rydym ni'n falch iawn y bydd Alexandra yn rhan o'r cwmni dros y misoedd nesaf.
"Mae hwn yn gyfle rhagorol iddi hi sicrhau profiad ymarferol o ymchwilio i brynwyr ar gyfer trafodion gwerthu a gwaredu mewn cwmni prysur a llwyddiannus.
"Mae Alexandra yn dangos addewid gwirioneddol. Mae ganddi eisoes ddealltwriaeth o fyd busnes ac rydym ni'n gobeithio ei helpu i ddatblygu ei sgiliau cyllid corfforaethol a'i gwybodaeth yn ystod cyfnod ei hinterniaeth gyda ni..."
Alexandra yw'r ddiweddaraf i ymuno â Lexington Corporate Advisors ers i'r cwmni ddechrau ymwneud â rhaglen Interniaeth BBaCh Prifysgolion Santander, sy'n ceisio gwella cyflogadwyedd graddedigion drwy greu partneriaethau gyda phrifysgolion a busnesau lleol drwy'r DU gyfan i gynnig interniaethau o ansawdd uchel ar draws amrywiaeth o sectorau.
Wrth sôn am ei hinterniaeth, dywedodd Alexandra: "Rwyf i'n teimlo'n gyffrous iawn i fod yn dechrau fy lleoliad yn y flwyddyn newydd. Bydd yn gyfle i fi gymhwyso'r damcaniaethau rwyf i wedi'u dysgu o fy nghymhwyster AAT Lefel 3 ac Ysgol Busnes Caerdydd mewn amgylchedd proffesiynol. Yn ogystal, rwyf i'n credu y bydd fy nghydweithwyr yn Lexington yn cynnig pob cymorth sydd ei angen arnaf i ragori yn fy swydd..."
Ychwanegodd Alex Hicks, Rheolwr Lleoliadau Ysgol Busnes Caerdydd: "Rydym ni wedi bod yn gweithio gyda Lexington dros y 12 mis diwethaf ac mae'n wych gweld y cwmni'n tyfu ac yn datblygu, ac i'n myfyrwyr ni fod yn rhan o'r stori honno..."
"Mae'n golygu bod busnes yn cael manteisio ar fyfyrwyr creadigol, gwybodus ac uchelgeisiol tra bo'r myfyrwyr yn cael cyfle i sicrhau profiad ymarferol ac adeiladu eu rhwydwaith broffesiynol cyn graddio."
Sefydlwyd Lexington Corporate Advisors ym mis Ionawr 2016 gan Gary Partridge a Nigel Greenaway. Mae'r cwmni cynghori entrepreneuraidd bychan yn arbenigo mewn darparu cyngor strategol wedi'i dargedu at dyfu busnes, caffaeliadau, gwarediadau a chodi arian.
Gan dynnu ar rwydwaith gyfunol Gary a Nigel, a thros 40 mlynedd o brofiad o weithio ym maes cyllid corfforaethol, mae Lexington yn gweithio ar draws y DU fel Prif Gynghorydd yn darparu cyngor ymarferol, y gellir ymddiried ynddo, i gwmnïau a'u perchnogion sy'n ceisio hwyluso twf a chrisialu gwerth.