Dathlu’r ŵyl a chodi arian
19 Rhagfyr 2016
![](https://cardiff.imgix.net/__data/assets/image/0003/533676/Welsh-Christmas-2016.jpg?w=570&h=321&fit=crop&q=60&auto=format)
Mae Ysgol y Gymraeg, Prifysgol Caerdydd, wedi bod yn dathlu’r ŵyl gan godi arian at achosion da yr un pryd.
Bu staff a myfyrwyr yr Ysgol yn cystadlu mewn nosons gwis—a siwmperi Nadolig!—dan ofal Keith ‘Cwis’ Davies yn y Porthdy, Undeb y Myfyrwyr ar nos Lun 5 Rhagfyr. Cafwyd noson lawn chwerthin gyda saith tîm yn cystadlu. Diolch i’r tâl mynediad, y raffl, a gweithgareddau a rhoddion eraill, fe gododd cymuned yr Ysgol £130 tuag at elusen Achub y Plant.
Yn ogystal â’r noson gwis bu’r Ysgol hefyd yn casglu deunyddiau ac eitemau amrywiol ar gyfer pobl ddigartref y ddinas. Ymhlith y cyfraniadau yr oedd dillad gaeaf cynnes, sachau cysgu ac eitemau ymolchi. Casglwyd llond cist car o roddion ac fe’u dosbarthwyd i’r digartref yng Nghaerdydd gan aelodau Ararat, Eglwys y Bedyddwyr yn yr Eglwys Newydd.
Wrth i’r Brifysgol baratoi i gau ar gyfer y Nadolig, hoffai’r Ysgol ddymuno Nadolig Llawen a Blwyddyn Newydd dda i bawb.