Ewch i’r prif gynnwys

Datblygu dulliau gwyddonol cost isel i asesu dementia

16 Rhagfyr 2016

ipad

Prifysgol Caerdydd yn cael hanner miliwn o bunnoedd yng ngham cyntaf y rhaglen iechyd fyd-eang

Mae Prifysgol Caerdydd wedi cael tua hanner miliwn o bunnoedd i ddatblygu dull gwybyddol cost isel i asesu dementia mewn gwledydd incwm isel a chanolig.

Gan ddatblygu'r gwaith sydd eisoes yn cael ei wneud ym Mhrifysgol Caerdydd a Phrifysgol California, San Francisco, bydd y prosiect newydd yn creu dulliau newydd ar lechi i ganfod dementia. Bydd yn gweithio mewn partneriaeth â chlinigwyr, ymchwilwyr a chleifion mewn dwy wlad incwm isel a chanolig - Cuba a Tsieina.

Mae'r prosiect hefyd yn creu rhwydwaith ymchwil fyd-eang unigryw, sy'n cynnwys arbenigwyr o Cuba a Tsieina, yn ogystal ag Iwerddon, UDA a'r DU. Mae'n canolbwyntio ar ddatblygiadau technolegol ym maes asesu gwybyddol a'u cysylltu â chyfleoedd hyfforddiant ac arwain ar gyfer unigolion sy'n gweithio ym maes dementia mewn gwledydd incwm isel a chanolig.

Cafodd y prosiect ei ariannu gan y Cyngor Ymchwil Feddygol a'r Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol. Roedd hyn yn rhan o gam cyntaf Cronfa Ymchwil Heriau Byd-eang (GCRF) gwerth £1.5 biliwn y cynghorau ymchwil, a'i nod yw mynd i'r afael â materion sy'n effeithio ar bobl yn y gwledydd hyn drwy ddefnyddio arbenigedd ymchwil rhagorol y DU.

Dywedodd yr Athro Kim Graham, Deon Ymchwil Coleg Gwyddorau Biofeddygol a Bywyd Prifysgol Caerdydd a phrif ymchwilydd yr astudiaeth: “Erbyn 2050, amcangyfrifir y bydd 71% o'r bobl sy'n dioddef dementia yn byw mewn gwledydd incwm isel a chanolig. Ar hyn o bryd, dim ond 10% o'r rhai sydd â dementia sy'n cael diagnosis priodol gan olygu eu bod yn cael llai o arweiniad clinigol, gofal cefnogol a'r cyffuriau sy'n dod i'r amlwg.

"Bydd ein prosiect newydd yn edrych ar ddefnyddio technoleg ddigidol, fel llechi a ffonau clyfar, i roi dulliau gwybyddol cost isel ond hynod sensitif i asesu dementia. Drwy ddefnyddio'r dechnoleg sydd eisoes ar gael yn rhwydd mewn gwledydd incwm isel a chanolig, ni fydd angen dulliau drytach a llai hygyrch. Bydd hyn hefyd yn helpu teuluoedd a gweithwyr iechyd proffesiynol i roi gofal priodol ac wedi'i theilwra i gleifion."

Ychwanegodd Declan Mulkeen, Pennaeth Strategaeth y Cyngor Ymchwil Feddygol: "Mae'n braf gweld prosiectau yn mynd i'r afael â ffactorau amgylcheddol ac economaidd ehangach sy'n effeithio ar iechyd, yn ogystal â defnyddio technolegau newydd fel bod triniaethau cost-effeithiol ar gael i bawb.

"Mae'r Cyngor Ymchwil Feddygol wedi bod yn hynod lwyddiannus ym maes ymchwil Iechyd Byd-eang, a hynny'n aml mewn partneriaeth.  Clefydau heintus sydd wedi cael y prif sylw, ac mae'n parhau i fod y maes sy'n cael y rhan fwyaf o arian. Fodd bynnag, mae anghenion iechyd yn newid wrth i wledydd ddatblygu.  Bydd Cronfa Ymchwil Heriau Byd-eang yn ein galluogi i fynd i'r afael ag ystod ehangach o broblemau iechyd, er budd lleol a byd-eang."