Megaddaeargrynfeydd
19 Rhagfyr 2016
Mae gwyddonwyr o brifysgolion Caerdydd ac Utrecht wedi darganfod y gallai anwastadrwydd lloriau'r cefnforoedd fod yn ffactor allweddol sy'n achosi rhai o ddaeargrynfeydd mwyaf pwerus y Ddaear.
Mewn astudiaeth newydd a gyhoeddwyd heddiw yn Nature Geoscience mae'r tîm yn awgrymu mai crugiau a thomenni mawr ar lawr y môr sy’n achosi'r grawen yng nghefnforoedd y Ddaear i gwympo'n ddramatig o dan grawen y cyfandir a chreu daeargryn enfawr.
Trwy astudio creigiau agored o gylchfa ffawtio 180 miliwn o flynyddoedd oed yn Seland Newydd, mae'r ymchwilwyr wedi dangos, am y tro cyntaf, bod y platiau tectonig cefnforol a chyfandirol eithriadol o drwchus yn gallu llithro yn erbyn ei gilydd heb achosi llawer o drafferth, ond bod mannau anwastad ar lawr y môr yn gallu achosi'r plât tectonig i lithro'n sydyn, sy'n achosi daeargryn enfawr.
Mae'r ymchwilwyr yn credu y gallai'r wybodaeth hon, ynghyd â mapiau manwl o arwynebedd llawr y môr, ein helpu i ddatblygu modelau manwl gywir i ragweld lle bydd daeargrynfeydd yn debygol o ddigwydd ar hyd ardaloedd islithro, a'n helpu i baratoi ar gyfer trychinebau, felly.
Mae gwyddonwyr wedi gwybod ers blynyddoedd bod y daeargrynfeydd mwyaf, a elwir yn fegaddaeargrynfeydd, yn dechrau mewn ardaloedd islithro lle caiff un plât tectonig ei dynnu oddi tan blât arall. Yn yr ardaloedd hyn mae llosgfynyddoedd yn ffurfio, fel sy’n gyffredin iawn yn ardal y 'Cylch Tân' yn y Cefnfor Tawel – ardal fwyaf seismig y byd.
Y megaddaeargryn mwyaf diweddar oedd yn Tohoku, Siapan yn 2011. Achoswyd tswnami 40 metr gan y daeargryn a oedd yn mesur 9 ar y raddfa Richter, a chollodd dros 15,000 o bobl eu bywydau, gyda chostau economaidd o tua US$235 biliwn.
Fodd bynnag, mae llawer o ardaloedd ledled y byd, gan gynnwys ardaloedd o fewn y 'Cylch Tân', lle byddai gwyddonwyr yn disgwyl gweld megaddaeargrynfeydd, ond nid ydynt yn digwydd.
Yn ôl pob golwg, mae'r ymchwil newydd wedi datrys y mater hwn drwy gynnig esboniad o'r hyn sy'n achosi daeargrynfeydd enfawr. Daeth y tîm i'w casgliadau drwy archwilio creigiau sydd, drwy erydiad ac ymgodiad tectonig, wedi cael eu cario i wyneb y Ddaear o ddyfnder o 15-20km mewn cylchfa ffawtio ddiffoddedig yn Seland Newydd a oedd yn weithredol tua 180 miliwn o flynyddoedd yn ôl.
Canfu'r tîm y gall creigiau yn y gylchfa ffawtio fod â thrwch rhwng degau a channoedd o fetrau, a'u bod yn gallu gweithredu fel sbwng i amsugno'r pwysedd sy'n cronni wrth i ddau blât tectonig lithro heibio ei gilydd.
Golyga hyn fod dau blât yn gallu symud heibio ei gilydd yn aml heb unrhyw effaith, ond bod angen newid sydyn i'r amodau hyn, megis lwmp neu domen ar lawr y môr, i achosi daeargryn.
"Gan fod ffawt weithredol yn y cefnfor, dim ond hyd at 6km y gallwn ddrilio, felly mae ein dull wedi rhoi gwybodaeth hynod werthfawr i ni," meddai Dr Ake Fagereng, prif awdur yr astudiaeth o Ysgol Gwyddorau'r Ddaear a'r Amgylchedd ym Mhrifysgol Caerdydd.
"Rydym wedi dangos y gallai'r gylchfa ffawtio ar hyd ffiniau platiau fod yn fwy trwchus na'r disgwyl, sy'n gallu amsugno'r pwysedd y mae llithriad y platiau'n ei achosi. Fodd bynnag, mewn ardaloedd lle mae mannau anwastad ar lawr y môr, fel crugiau neu domenni, gall hyn wneud i ffiniau'r platiau lithro degau o fetrau ac achosi daeargryn enfawr."