£1m ar gyfer technoleg laser i fenter ym Mhrifysgol Caerdydd
16 Rhagfyr 2016

Mae consortiwm o dan arweiniad menter ym Mhrifysgol Caerdydd wedi cael £1.2m i ddatblygu technolegau laser.
Bydd y Ganolfan Lled-ddargludyddion Cyfansawdd (CSC) – sy'n eiddo i'r Brifysgol ac IQE plc – yn datblygu laserau lled-ddargludyddion o'r radd flaenaf i'w defnyddio mewn clociau atomig bychain gydag ystod eang o raglenni gan gynnwys cynhyrchion llywio a thelathrebu.
Bydd y dyfarniad gan Raglen Technolegau Cwantwm Cenedlaethol y DU yn ariannu rhaglen dwy flynedd.
Bydd y Ganolfan yn gweithio gyda Phrifysgol Caerdydd, Technolegau Lled-ddargludyddion Cyfansawdd (Glasgow), a'r Labordy Ffiseg Cenedlaethol (NPL) i ddatblygu cadwyn gyflenwi ar gyfer yr elfennau pwysig hyn yn y DU..."
"Mae'n hanfodol ein bod yn buddsoddi yn llawn yn y gadwyn gyflenwi. Nid yn unig y bydd hyn yn gwneud yn siŵr bod y DU ar flaen y gad ym maes gwyddoniaeth a thechnoleg, bydd hefyd yn ein galluogi i elwa ar gyfleoedd masnachol yn y maes yn y dyfodol."
Fe gafodd y Ganolfan Lled-ddargludyddion Cyfansawdd ei sefydlu ym mis Awst 2015 fel menter ar y cyd rhwng Prifysgol Caerdydd, un o brifysgolion ymchwil mwyaf blaenllaw Prydain, ac IQE plc, prif ddarparwr wafferi lled-ddargludyddol cyfansawdd y byd.
Mae'r Ganolfan wedi'i lleoli yng Nghaerdydd ac mae'n garreg filltir hanfodol wrth ddatblygu clwstwr lled-ddargludyddion rhagorol yn ne Cymru.