Canolfan £50m ar gyfer Bywyd y Myfyrwyr yn cael mynd yn ei blaen
14 Rhagfyr 2016
Mae Cyngor Dinas Caerdydd wedi penderfynu rhoi caniatâd cynllunio i Brifysgol Caerdydd ddechrau codi adeilad nodedig gwerth £50m yng nghalon Campws Cathays.
Mae'r Ganolfan Bywyd y Myfyrwyr yn rhan o fuddsoddiad mawr ym mhrofiad myfyrwyr ac yn rhan o’r gwaith mwyaf ers cenhedlaeth i uwchraddio'r campws.
Mae'r Ganolfan yn brosiect partneriaeth ag Undeb y Myfyrwyr, ac yn ymateb i geisiadau gan fyfyrwyr am well wasanaethau a lleoedd dysgu ac astudio. Mae'n ffrwyth partneriaeth lwyddiannus a dynamig y mae’r Brifysgol yn falch o’i mwynhau gyda’i chorff o fyfyrwyr.
Bydd yr adeilad newydd yn creu canolbwynt ar gyfer ein gwasanaethau cefnogi myfyrwyr yn ogystal â chynnig mannau dysgu cymdeithasol modern, hyblyg a darlithfa 550-sedd gyfoethog ei thechnoleg.
Bydd Canolfan Bywyd y Myfyrwyr yn gwneud gwasanaethau cymorth yn fwy hygyrch i fyfyrwyr, gan gynnwys y rhai sy'n astudio y tu hwnt i Barc Cathays.
Bydd gwasanaeth cymorth ar-lein gwell, a bydd y Ganolfan yn cynnig un pwynt cyswllt i fyfyrwyr ac Ysgolion Prifysgol Caerdydd. Bydd yn hawdd cael mynediad at amrywiaeth o wasanaethau a chyfleusterau, a bydd gan y Ganolfan oriau agor estynedig.
Bydd gwasanaethau myfyrwyr yn cael eu strwythuro o gwmpas:
- Dyfodol: gyrfaoedd, cyflogadwyedd a chyfleoedd byd-eang
- Lles: iechyd meddwl a chwnsela
- Bywyd y myfyriwr: arian, cymorth i fyfyrwyr rhyngwladol, cymorth i bobl anabl, gweinyddiaeth myfyrwyr
- Bar cynghori: gall myfyrwyr drafod ymholiadau wyneb yn wyneb yn y ganolfan, neu ar-lein 24/7
Meddai'r Athro Colin Riordan, Is-Ganghellor y Brifysgol: "Mae hwn yn fuddsoddiad mawr yn ein myfyrwyr ac yn eu profiad dysgu..."
"Nid ein myfyrwyr a'n staff yw’r unig rai a fydd yn manteisio oherwydd bydd hwn yn adeilad nodedig ar gyfer pobl a dinas Caerdydd."
Meddai Sophie Timbers, Llywydd Undeb y Myfyrwyr: “Gwyddom mai’r datblygiad hwn yw'r buddsoddiad mwyaf sylweddol ym mhrofiad y myfyrwyr ers cenhedlaeth.
"Mae’n dilyn buddsoddiad mawr y Brifysgol yn adeilad Undeb y Myfyrwyr sydd wedi gweddnewid mynedfa Heol Senghennydd i Undeb y Myfyrwyr, gan gynnig croeso cynnes, amrywiaeth o siopau a chaffis sydd o fudd i’r myfyrwyr ac i'r cyhoedd.
"Rwy'n hapus iawn fod Cyngor Dinas Caerdydd wedi cefnogi cynlluniau uchelgeisiol y Brifysgol i greu’r Ganolfan ar gyfer Bywyd Myfyrwyr..."
"Mae’r bartneriaeth rhwng y Brifysgol ac Undeb y Myfyrwyr yn un hanfodol i’r ddau barti a bydd hyn yn caniatáu inni gydweithio hyd yn oed yn fwy agos."
Cynlluniwyd yr adeilad gan y penseiri arobryn Feilden Clegg Bradley Studios (FCB Studios) sydd wedi gwneud gwaith gydag adeiladau cyhoeddus proffil uchel.
Mae gan FCB Studios brofiad o weithio ar brosiectau prifysgolion yn y DU ac yn rhyngwladol, ac maent wedi gweithio ar nifer o gynlluniau blaenllaw ar gyfer cleientiaid o bwys, fel Ysgol Gelf Manceinion, yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, Amgueddfa Rhyfel Oer yr Awyrlu Brenhinol, a Chanolfan Southbank.
Meddai Tom Jarman, y Prif bensaer: "Mae Feilden Clegg Bradley Studios yn falch iawn fod y Ganolfan ar gyfer Bywyd Myfyrwyr ym Mhrifysgol Caerdydd wedi cael caniatâd cynllunio ac rydym yn edrych ymlaen yn fawr iawn at symud y prosiect i'r camau nesaf.
"Mae'r cynllun yn dal i fod yn driw i gysyniadau gwreiddiol y gystadleuaeth ac rydym yn gyffrous wrth gymryd un cam yn nes at ei weld yn dwyn ffrwyth."
Disgwylir i’r gwaith adeiladu ddechrau yn 2017 ac i’r Ganolfan fod yn barod erbyn blwyddyn academaidd 2019/20.
Mae'r penderfyniad ar Ganolfan Bywyd y Myfyrwyr yn dilyn caniatâd gan gynllunwyr y ddinas i gyfnod diweddaraf Campws Arloesedd y Brifysgol sy’n werth £300m ganol mis Tachwedd. Bydd dau adeilad newydd, sy’n costio cyfanswm o £135m, yn dod ag ymchwilwyr, busnesau, cefnogwyr o'r sector cyhoeddus, a myfyrwyr at ei gilydd i ddatblygu syniadau sy'n sbarduno twf economaidd.