WaterWatt
14 Rhagfyr 2016
Mae ymchwil newydd gan Brifysgol Caerdydd yn ymchwilio i p'un a allai defnyddio dull gemau o sicrhau effeithlonrwydd ynni yn y sector diwydiannol yn Ewrop helpu i wneud gweithrediadau'n fwy gwyrdd.
Mae Dr Dean Stroud – yn gweithio gyda Dr Martin Weinel a Dr Claire Evans – o Ysgol Gwyddorau Cymdeithasol Prifysgol Caerdydd, yn rhan o dîm rhyngwladol sy'n hyrwyddo dulliau o wneud cylchedau dŵr diwydiannol yn fwy effeithlon o ran ynni, ac mae'r gwaith wedi'i ariannu gan raglen Horizon 2020.
Nod prosiect WaterWatt yw datblygu teclyn effeithlonrwydd ynni sy'n seiliedig ar ddefnyddio nodweddion a meddylfryd gemau, a hynny mewn amgylcheddau nad ydynt yn gemau, er mwyn cynyddu'r ymddygiadau a'r math o ymgysylltu a ddymunir.
Bydd yn galluogi gweithwyr i ymgysylltu â'u cydweithwyr drwy ddefnyddio apiau symudol, a fydd yn eu galluogi i gystadlu (neu gydweithio), ac i ymddwyn mewn modd sy'n fwy ynni effeithlon, a chael 'gwobrau' rhithwir drwy wneud hynny.
Dywedodd Dr Stroud: "Nod y prosiect yw datblygu platfform ar-lein i helpu i oresgyn ffactorau sy'n rhwystro effeithlonrwydd ynni, yn enwedig y diffyg arbenigedd a gwybodaeth am reoli ynni a'r posibilrwydd o arbed ynni mewn cylchedau dŵr diwydiannol.
"Mae gwella effeithlonrwydd ynni ar draws y sector diwydiannol yn Ewrop yn hanfodol er mwyn sicrhau cystadleurwydd. Yn benodol, drwy astudio dulliau rheoli dŵr ac effeithlonrwydd ynni o fewn cylchedau dŵr diwydiannol, bydd y prosiect yn datblygu atebion cymdeithasol a thechnegol i wella effeithlonrwydd adnoddau."
Mae'r prosiect yn cynnwys chwe phartner o bum gwlad – yr Almaen, yr Eidal, Norwy, Portiwgal a'r DU – ac yn canolbwyntio ar saith sector ynni-ddwys: dur, metalau anfferrus, bwyd a diod, sment/serameg, cemegion, petrocemegion, a mwydion a phapur.
Fel rhan o'r gwaith ymchwil, mae'r tîm yng Nghaerdydd yn cynnal astudiaethau achos helaeth a chyfweliadau â phartneriaid ledled Ewrop, ac yn cyfrannu at nodau ehangach y prosiect o wella effeithlonrwydd ynni mewn cylchedau dŵr diwydiannol. At hynny, maent yn astudio marchnadoedd a gweithgareddau meithrin gallu, ac yn rhannu gwybodaeth mewn gweithdai a thrwy e-ddysgu.
Ychwanegodd Dr Stroud: "Y gobaith yw y bydd ein prosiect yn gallu dangos sut gall gemeiddio helpu i gynyddu ymwybyddiaeth o ran lleihau'r ynni a ddefnyddir mewn cylchedau dŵr, ac yn helpu pobl i gymryd rhan. Bydd hefyd yn cynnig sylfaen wybodaeth o arferion gorau, technolegau a modelau sefydliadol sy'n ymwneud â rheoli ynni a dŵr; dulliau ar gyfer hunanasesu a monitro; a hyfforddiant ac ymarferion ar gyfer treialon maes."