Y Gyfraith a Chrefydd
14 Rhagfyr 2016
Mae Prifysgol Caerdydd wedi croesawu academydd blaenllaw ym maes y Gyfraith i draddodi darlith am y gyfraith a chrefydd.
Traddodwyd darlith From Gospel to Law: Luther's Reformation of Law, Politics and Society and What it Means for us Today gan yr athro Witte Jr o Brifysgol Emory.
Ag yntau'n arbenigwr yn hanes y gyfraith, cyfraith priodi, a rhyddid crefyddol, mae'r Athro Witte Jr wedi cyhoeddi 230 o erthyglau, 15 o symposia cyfnodolion, a 28 o lyfrau. Mae'n athro arobryn, academydd nodedig ac yn gyfarwyddwr y Ganolfan ar gyfer Astudio'r Gyfraith a Chrefydd (CSLR) ers tro, yn Ysgol y Gyfraith ym Mhrifysgol Emory.
Yn ei ddarlith, amlinellodd yr Athro Witte Jr effeithiau'r Diwygiad Protestannaidd ar y gyfraith a'r gymdeithas, ac thrafododd sut y mae syniadau Martin Luther – mynach yn y 16eg Ganrif ac Athro Diwinyddol – yn parhau i ddylanwadu ar y gyfraith heddiw, yn enwedig yng nghyd-destun cyfreithiau priodi.
Dywedodd Dr Russell Sandberg, o Ysgol y Gyfraith a Gwleidyddiaeth, a gynhaliodd y digwyddiad: "Roedd yn bleser croesawu'r Athro Witte Jr i Gaerdydd ar gyfer darlith ddiddorol dros ben a hoeliodd sylw'r gynulleidfa gyfan..."
"2017 fydd pumcanmlwyddiant y Diwygiad Protestannaidd yn Ewrop, a byddwn yn gweld llawer o ddarlithoedd a chyhoeddiadau. Mae'n dda gweld bod Prifysgol Caerdydd yn achub y blaen."
Fel rhan o'i ymweliad, lansiodd yr Athro Witte Jr grŵp ymchwil y Gyfraith a Hanes yr Ysgol, ac aeth i ddigwyddiad i ddathlu cyhoeddi'r llyfr Law and History, sydd wedi'i olygu gan yr Athro Norman Doe, Athro'r Gyfraith ym Mhrifysgol Caerdydd, a Dr Russell Sandberg.
Ychwanegodd Dr Sandberg: "Dydy astudio Hanes y Gyfraith ddim mewn ffasiwn mewn ysgolion y gyfraith yn y DU bellach. Er bod gwaith rhagorol yn cael ei wneud, mae'r rhan fwyaf ohono wedi'i anelu at bobl eraill sy'n gweithio ym maes Hanes y Gyfraith. Mae hwn yn anffodus. Mae Hanes y Gyfraith yn rhy bwysig o lawer i fod yn rhywbeth sy'n ymddiddori haneswyr y gyfraith yn unig. Mae angen i waith hanesyddol am y gyfraith fod yn hygyrch i holl fyfyrwyr ac academyddion y gyfraith. Ac mae angen i gyfreithwyr weithio gyda haneswyr er mwyn i ni ddysgu o'n gilydd.
"Dyna nod y grŵp ymchwil newydd. Yng Nghaerdydd, bydd astudio'r Gyfraith a Hanes yn cynnig safbwynt newydd ac yn defnyddio ymagwedd hanesyddol i gwestiynu rhagdybiaethau sydd gennym am y gyfraith. Bydd yn ychwanegu at waith blaenorol, ac yn rhyngddisgyblaethol ei natur, a fydd yn arwain at fwy o gydweithio a chysylltiadau newydd."