Gofal adfer gartref yn helpu bywyd bob dydd pobl â golwg gwan
12 Rhagfyr 2016
Yn ôl astudiaeth gan Brifysgol Caerdydd, gall ymweliadau cartref gan arbenigwyr adfer drawsnewid golwg a bywyd bob dydd y rhai na ellir cywiro eu golwg gyda sbectol neu lensys cyffwrdd.
Daeth i'r amlwg bod golwg y rhai oedd yn cael ymweliadau cartref gan swyddogion adfer gweledol yn gwella'n sylweddol o'u cymharu â'r rhai oedd yn cael apwyntiadau safonol mewn ysbytai a gwasanaethau cymunedol.
Meddai'r Athro Tom Margrain o Ysgol Optometreg a Gwyddorau'r Golwg ym Mhrifysgol Caerdydd: "Mae golwg gwael yn effeithio ar tua 2m o bobl y DU, felly mae'n bwysig amlygu gwasanaethau adfer gweledol sy'n gallu rhoi mwy o annibyniaeth i'r rhai sydd wedi colli eu golwg a gwella ansawdd eu bywyd..."
Ychwanegodd Dan Pescod, Pennaeth Ymgyrchoedd RNIB: "Mae'r astudiaeth hon o ddefnydd gan ei bod yn ychwanegu at y dystiolaeth ynghylch effeithlonrwydd adfer gweledol er mwyn helpu pobl ddall a rhannol ddall i fyw'n annibynnol. Mae'r ymchwil hefyd yn atgyfnerthu pwysigrwydd ymgyrch Gweld, Cynllunio a Darparu RNIB sy'n galw am well mynediad at gefnogaeth adfer gweledol o'r radd flaenaf."
Yn ystod yr astudiaeth, cafodd y 67 a gymerodd ran ynddi eu rhannu'n ddau grŵp dros gyfnod o chwe mis. Aeth swyddogion adfer gweledol, a gyflogir gan elusen Sight Cymru, ati i ymweld â'r rhain yn rheolaidd. Dim ond apwyntiadau arferol mewn ysbytai neu wasanaethau optometreg golwg gwael yn y gymuned oedd ar gael ar gyfer y gweddill ohonynt.
Yn ystod yr ymweliadau cartref, aseswyd anghenion mewn meysydd fel golwg arferol, golau, anawsterau personol, rheoli meddyginiaeth, diogelwch yn y gegin, tasgau o amgylch y tŷ, hawlio budd-daliadau, lleoliad a chyfathrebu. Aethpwyd ati wedyn i deilwra hyfforddiant a chefnogaeth yn y meysydd hyn e.e. cefnogi i ddefnyddio cymhorthion golwg isel, darparu blwch trefnu tabledi, dangosydd lefel hylif a hyfforddiant defnyddio ffon hir. Y Swyddog Adfer Gweledol oedd yn penderfynu ar nifer yr ymweliadau fesul achos.
Dywedodd tua 70% o'r bobl yn y grŵp a gafodd ymweliadau cartref bod yr ymweliadau hyn yn 'ddefnyddiol dros ben', ac mai hyfforddiant cegin oedd yr elfen fwyaf defnyddiol.
Ychwanegodd yr Athro Tom Margrain, "Hyd yma, prin iawn fu'r dystiolaeth i ddangos effeithiolrwydd gofal cymdeithasol a gyflwynir drwy adfer gartref. O ganlyniad, mae hyn yn wedi tanseilio'r gwasanaeth a golygu nad yw ar gael mewn sawl ardal yn y DU. Mae ein hastudiaeth yn profi bod swyddog adfer gweledol yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau pobl â golwg gwan, gan addasu ar gyfer anghenion yr unigolyn yn eu hamgylchedd bob dydd."
Mae'r ymchwil 'Effaith Ymyrraeth Adfer Gweledol Isel ar sail Ymweliad Cartref': Treial Archwiliadol ar Hap' wedi'i chyhoedd yng nghyfnodolyn 'Offthalmoleg Ymchwiliol a Gwyddoniaeth Gweledol'.