Prifysgol Caerdydd yw’r prifysgol cyntaf yng Nghymru i dderbyn teitl Athro Regius
9 Rhagfyr 2016
Cyflwynodd Gweinidog Cabinet Llywodraeth y DU dros y Cyfansoddiad, Mr Chris Skidmore AS ynghyd ȃ Gweinidog Llywodraeth y DU yng Nghymru yr Arglwydd Bourne, yr anrhydedd i'r Brifysgol mewn seremoni a gynhaliwyd ddydd Gwener 9 Rhagfyr 2016.
Mae teitl Athro Regius yn ddyfarniad prin a mawreddog a roddir gan Ei Mawrhydi y Frenhines i gydnabod ymchwil o safon eithriadol o uchel mewn sefydliad. Prifysgol Caerdydd yw'r brifysgol gyntaf yng Nghymru i dderbyn yr anrhydedd.
Ym mis Mehefin eleni, y Brifysgol oedd un o 12 o brifysgolion a anrhydeddwyd i nodi Pen-blwydd Ei Mawrhydi yn 90 oed. Cyn hyn, dim ond 14 oedd wedi'u dyfarnu ers teyrnasiad y Frenhines Fictoria. Credir bod y teitl Athro Regius cyntaf wedi'i roi i Brifysgol Aberdeen yn 1497 gan y Brenin James IV.
Cyflwynwyd y fraint brin hon i gydnabod ymchwil ac addysgu eithriadol yr Ysgol Cemeg dros flynyddoedd lawer, yn ogystal â'i rôl wrth sbarduno twf a gwella cynhyrchiant yn y DU.
Mae'r Ysgol ar flaen y gad yn y modd y mae'n troi gwaith ymchwil cemegol sylfaenol yn amrywiaeth eang o gymwysiadau sy'n cael effaith gymdeithasol o bwys ym meysydd gwyddorau gofal iechyd, puro dŵr, newid yn yr hinsawdd ac amddiffyn, ymhlith llu o rai eraill.
Rhoddwyd Teitl Athro Regius i'r Athro Graham Hutchings, cyfarwyddwr Sefydliad Catalysis Caerdydd (CCI) ac un o arbenigwyr mwyaf rhagorol y byd ym maes catalysis – y broses o gyflymu adweithiau cemegol er mwyn gwneud cynhyrchion yn rhatach, yn lanach, yn fwy diogel ac yn fwy cynaliadwy.
Ar ôl cyflwyno'r warant cafodd y Gweinidogion ei tywys o gwmpas y cyfleusterau o'r radd flaenaf yn CCI a chyfarfu â'r Athro Hutchings i glywed mwy am weithgaredd ymchwil a rhaglenni addysg yr Ysgol Cemeg.
Dywedodd yr Athro Graham Hutchings: “Mae derbyn teitl Athro Regius yn anrhydedd enfawr i fi. Cyflwynir yr anrhydedd ar sail rhagoriaeth academaidd ac effaith, ac rydym yn rhagori yn y naill faes fel y llall yn Sefydliad Catalysis Caerdydd..."
Dywedodd Chris Skidmore, y Gweinidog dros y Cyfansoddiad: "Yn y DU y mae rhai o brifysgolion gorau'r byd ac rwy'n teimlo'n freintiedig iawn i allu eu cydnabod gyda gwobr uchel ei bri fel hon..."
"Gall pob un o'r prifysgolion sy'n derbyn teitl Athro Regius eu hystyried eu hunain yn gwbl haeddiannol o'r anrhydedd mawr hwn, rwy’n hapus iawn i weld Prifysgol o Gymru yn derbyn yr anrhydedd am y tro cyntaf.”
Ychwanegodd yr Arglwydd Bourne, Gweinidog Llywodraeth y DU yng Nghymru: "Mae'n cydnabod nid yn unig ymchwil o ansawdd uchel ond yr addysg o safon rhagorol ym Mhrifysgol Caerdydd.”
Dewiswyd deiliaid newydd y teitl Athro Regius drwy gystadleuaeth agored, gyda phanel arbenigol annibynnol o feirniad o arbenigwyr busnes ac academaidd. Mae statws Athro Regius yn adlewyrchiad teilwng o ansawdd eithriadol o uchel yr addysgu a'r ymchwil mewn sefydliad.