Yr Athro Helen Houston yn cael MBE
8 Rhagfyr 2016
Mae'r Athro Helen Houston o'r Ysgol Meddygaeth wedi'i hurddo'n Aelod o Urdd yr Ymerodraeth Brydeinig (MBE) am ei chyfraniad at addysg feddygol a gwasanaethau iechyd yn ne Cymru.
Dywedodd yr Athro Houston, "Braint o'r mwyaf yw cael fy urddo ochr yn ochr â phobl sydd wedi gwneud cyfraniadau anhygoel. Diolch i bawb sydd wedi fy nghefnogi, fy nghydweithwyr a fy nheulu yn enwedig."
Mae'r Athro Houston yn Athro Clinigol yn Sefydliad Addysg Feddygol. Mae wedi helpu i drawsnewid addysg feddygol drwy ei gwaith ymchwil sydd wedi edrych ar ba gyngor meddygol sydd ar gael mewn ysgolion meddygol a'r rhaglenni cefnogi ar gyfer myfyrwyr meddygol a meddygon, ymhlith meysydd eraill.
Meddygaeth deuluol yw arbenigedd clinigol yr Athro Houston ac mae wedi helpu cymunedau yng Nghaerdydd a Gelligaer ers 1984. Enillodd ei MD am ei hymchwil ynghylch goruchwylio iechyd plant. Addysg feddygol ôl-raddedig oedd pwnc ei gyrfa academaidd, yn rhan o Dîm Gofal y Cymoedd, ac aeth yn ei blaen i fod yn drefnydd cyrsiau ar gyfer hyfforddiant meddygaeth deuluol wedi hynny.
Ymunodd ag adran meddygaeth deuluol y Brifysgol ym 1990 a daeth yn Bennaeth Adran ac yn athro ym 1999. Yn ogystal â gwneud gwaith clinigol ac ymchwil am y gwasanaeth iechyd, ym maes addysg feddygol y bu ei phrif gyfraniad academaidd. Arweiniodd y gwaith o ddatblygu'r cwricwlwm israddedig cyn cael ei phenodi'n Ddirprwy Ddeon ac wedi hynny'n Ddeon Astudiaethau Israddedig yn yr Ysgol Meddygaeth.
Yn 2000, llwyddodd i gael arian gan Lywodraeth Cymru ar gyfer cynllun arloesol oedd yn ceisio gwella gofal iechyd mewn cymunedau economaidd-gymdeithasol difreintiedig yn ne Cymru ochr yn ochr â datblygu sgiliau academaidd meddygon teulu. Mae'r cynllun ar waith o hyd ac mae wedi bod yn llwyddiant ysgubol.