Defnyddio technoleg i wella gofal
8 Rhagfyr 2016
Tîm o'r Ysgol Fferylliaeth yn ennill Gwobr Health Service Journal 2016
Mae tîm o'r Ysgol Fferylliaeth, mewn partneriaeth â Beacon Digital ac Invatech Health, wedi ennill Gwobr Health Service Journal 2016 am Wella Gofal gyda Thechnoleg.
Mae'r wobr wedi'i chynnal ers 35 o flynyddoedd erbyn hyn ac mae ymhlith y gwobrau mwyaf uchel ei pharch ym maes gofal iechyd ym Mhrydain. Mae'n dathlu ac yn hyrwyddo'r cyflawniadau gorau ym maes arloesedd ac ymarfer.
Prosiect a ariennir gan Lywodraeth Cymru yw gwaith llwyddiannus y tîm. Ei nod yw gweithredu a gwerthuso system drydanol arloesol ar gyfer rheoli meddyginiaethau mewn cartrefi gofal.
Dywedodd y beirniaid fod y system wedi "trawsnewid" dull rheoli meddyginiaethau mewn cartrefi gofal ac roedd "cyfle gwirioneddol" i'w chyflwyno'n ehangach.
Mae'r system electronig, a ddatblygwyd gan Beacon Digital Health ac Invatech Healthcare, yn rhoi mynediad cynhwysfawr i fferyllwyr at gofnodion meddyginiaethau cleifion, ac mae'n eu galluogi i gysylltu â chartrefi gofal o bell, gan roi cyngor proffesiynol a gwneud yn siŵr bod meddyginiaethau'n ddiogel ac yn effeithiol ar gyfer cleifion, a bod y cofnodion yn gywir. Mae'r adnodd yn galluogi fferyllwyr i roi gwybod i staff cartref gofal am feddyginiaethau a dognau newydd hefyd.
Wrth werthuso'r adnodd, dangosodd arbenigwyr Prifysgol Caerdydd y gallai'r system ddileu 21 o 23 math o wall sy'n gysylltiedig â rheoli meddyginiaethau, a amlygwyd cyn rhoi'r adnodd ar waith. Gallai hefyd ddarparu nifer o ymyriadau i atal rhagor o wallau, gan leihau risgiau sylweddol i ddiogelwch cleifion.
Mae'r tîm yn amcangyfrif y gallai rhoi'r adnodd ar waith i leihau nifer y meddyginiaethau gwastraff arwain at arbed rhwng £3.2m a £4.6m bob blwyddyn, ar gyfer y 26,000 o welyau mewn cartrefi gofal yng Nghymru.
Dywedodd Dr Mat Smith, aelod o'r tîm gwerthuso yn Ysgol Fferylliaeth a Gwyddorau Fferyllol Prifysgol Caerdydd, "Rydym wrth ein bodd bod y beirniaid wedi cydnabod ein partneriaeth â Beacon Digital fel gwaith arloesol a blaengar. Rydym yn falch iawn ein bod wedi gallu dangos gwelliannau o ran diogelwch ac effeithlonrwydd yn y modd y rheolir meddyginiaethau mewn cartrefi gofal."