Ysgrifennydd Addysg yn ymweld â'r Brifysgol
8 Rhagfyr 2016
Daeth Kirsty Williams AC, Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg yn Llywodraeth Cymru, i ymweld â thîm Cyfleoedd Byd-eang Prifysgol Caerdydd heddiw (dydd Iau, 8 Rhagfyr 2016), i ddysgu mwy am sut mae'r Brifysgol yn cynnig cyfleoedd i fyfyrwyr mewn cyd-destun rhyngwladol.
Mae Tîm Cyfleoedd Byd-eang Prifysgol Caerdydd yn adnodd pwrpasol ac yn ffynhonnell o arbenigedd ar gyfer yr holl gyfleoedd rhyngwladol sydd ar gael drwy'r Brifysgol. Gan ddefnyddio cysylltiadau'r Brifysgol â mwy na 300 o sefydliadau, yn Ewrop ac yng ngweddill y byd, mae'r Ganolfan yn rhoi cyfleoedd i fyfyrwyr is-raddedig gael lleoliad dramor, boed hynny fel rhan o'u gradd, neu fel rhan o gyfle i astudio, gweithio neu wirfoddoli dramor ar leoliad yn ystod yr haf.
Mae myfyrwyr sy'n treulio cyfnod dramor (yn gweithio, astudio neu'n gwirfoddoli) yn ystod eu hamser yn y brifysgol yn fwy cyflogadwy. Yn ôl adborth gan fyfyrwyr a dreuliodd amser dramor, roedd y lleoliadau wedi eu galluogi i ddatblygu sgiliau a fyddai'n ddefnyddiol mewn swyddi yn y dyfodol, a dangosodd adroddiad diweddar gan Gydffederasiwn Diwydiant Prydain fod profiad a enillir drwy leoliadau busnes a/neu interniaethau yn gallu gwneud cyfraniad pwysig at baratoi myfyrwyr ar gyfer swyddi.
Ar ôl y digwyddiad, dywedodd Is-Ganghellor Prifysgol Caerdydd, yr Athro Colin Riordan: "Mae gan Gymru hanes cryf o ddenu myfyrwyr rhyngwladol, ond er bod tua 10 y cant o fyfyrwyr y byd yn dewis astudio yn y DU, mae'n rhaid i ni wneud llawer mwy i annog ein myfyrwyr ein hun i symud o gwmpas.
“O blith ein myfyrwyr israddedig a raddiodd yn 2016, cymerodd 18% ohonynt ran mewn cynlluniau symudedd rhyngwladol, sy'n helpu i wella datblygiad personol myfyrwyr, eu dealltwriaeth ryng-ddiwylliannol, a'u galluoedd ieithyddol, ac yn eu helpu i ddatblygu llawer o'r sgiliau trosglwyddadwy y mae cyflogwyr yn chwilio amdanynt gan raddedigion..."
"Mae'r neges y mae'n rhaid i ni ei chyfleu yn syml: mae symudedd allanol yn fuddiol nid yn unig i'n myfyrwyr, ond hefyd i Gymru."
Dywedodd Kirsty Williams, Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, Llywodraeth Cymru: “Mae ein prifysgolion yn ganolog i’n dyfodol cymdeithasol ac economaidd, ac maent yn ffynnu oherwydd yr amrywiaeth o bobl sy’n dod iddynt..."
“Roeddwn i’n awyddus iawn, felly, i ddysgu mwy am y gwaith a wnaed gan y Brifysgol, â sefydliadau yn Ewrop ac yng ngweddill y byd, i roi cyfle i fyfyrwyr ymgymryd â lleoliadau dramor. Mae’n gyfle gwych sy’n gallu ehangu profiad a gwybodaeth myfyrwyr am draddodiadau a diwylliannau eraill, a’u helpu i ennill sgiliau gwerthfawr a allai fod yn ddeniadol i gyflogwyr.”