Adnoddau astudio Safon Uwch newydd
8 Rhagfyr 2016
Mae’r Athro Sioned Davies, Pennaeth Ysgol y Gymraeg, Prifysgol Caerdydd, a Dr Dylan Foster Evans, wedi bod yn cyfarfod ag athrawon Cymraeg o ogledd, gorllewin a de Cymru er mwyn cyflwyno adnoddau electronig newydd iddynt.
Yn gynharach eleni fe gomisiynwyd y ddau gan CBAC i greu adnoddau pwrpasol newydd ar gyfer cwricwlwm Safon Uwch Cymraeg (iaith gyntaf). Mae’r adnoddau hyn wedi’u creu er mwyn cynorthwyo’r dysgu o fewn yr ystafell ddosbarth, ymestyn dealltwriaeth myfyrwyr blwyddyn 13 o’r testunau ac ysgogi trafodaeth.
Arbenigwraig nodedig ar y Mabinogion yw’r Athro Davies – cyhoeddodd gyfieithiad Saesneg newydd o’r chwedlau gyda Gwasg Prifysgol Rhydychen yn 2007. Mae’r adnodd ei hun yn canolbwyntio ar chwedl Branwen Ferch Llŷr. Trafodir cefndir y chwedl, y cyd-destun llafar a pherfformiadol, y prif themâu a’r cymeriadau; ceir hefyd nodiadau a sylwadau ar eiriau a chysyniadau penodol yn y testun.
Paratowyd yr adnodd ar Dafydd ap Gwilym gan Dr Foster Evans, arbenigwr ar farddoniaeth Gymraeg ganoloesol, gyda chymorth Dr Llŷr Gwyn Lewis. Ceir rhagymadrodd a golygiad o dair cerdd gyda nodiadau i gefnogi’r dysgu.
Mae’r Athro Davies a Dr Foster Evans wedi bod ar daith o amgylch Cymru yn cyflwyno’r adnoddau i athrawon mewn cyfres o weithdai. Cynhaliwyd y gweithdy cyntaf yn Llandudno, ddydd Gwener 11 Tachwedd, yr ail ar ddydd Mercher 16 Tachwedd yng Nghaerfyrddin a’r trydydd ar ddydd Llun 21 Tachwedd yn Ysgol Gyfun Garth Olwg, ym Mhontypridd.
Ochr yn ochr â’r gweithdai i athrawon, cynhaliodd Ysgol y Gymraeg Ddosbarthiadau Meistr i ddisgyblion blwyddyn 12 a 13 gan roi’r cyfle iddynt glywed mwy am yr adnoddau a gweithio gyda’r Athro Davies a Dr Foster Evans ac eraill o blith staff yr Ysgol. Roedd y digwyddiadau hyn yn rhad ac am ddim. Cynhaliwyd y Dosbarth Meistr cyntaf ddydd Gwener 4 Tachwedd yn Ysgol David Hughes, Porthaethwy ac fe gynhaliwyd yr ail sesiwn yn Ysgol y Gymraeg, Prifysgol Caerdydd, ddydd Mercher 23 Tachwedd.
Cewch weld yr adnoddau ar wefan CBAC – Adnodd Branwen Ferch Llŷr / Adnodd Dafydd ap Gwilym.
Am ragor o wybodaeth ar ddosbarthiadau meistr yr Ysgol, cysylltwch â Cadi Rhys Thomas.