Yr anifail sy’n byw hwyaf yn datgelu cyfrinachau hinsawdd y cefnfor
6 Rhagfyr 2016
Dengys dadansoddiad o gragen fylchog y forwyn fwyaf sut effeithiodd y cefnforoedd ar yr hinsawdd dros y 1000 o flynyddoedd diwethaf
Mae astudiaeth o’r anifail sy’n byw hwyaf ar y Ddaear, cragen fylchog y forwyn fwyaf, wedi rhoi mewnwelediad i hanes y cefnforoedd nas cafwyd o’r blaen.
Drwy astudio cemeg cylchoedd tyfiant yng nghregyn bylchog y forwyn fwyaf, mae arbenigwyr o Brifysgol Caerdydd wedi gweld yn raddol beth fu hanes Gogledd Cefnfor Iwerydd dros y 1000 o flynyddoedd diwethaf ac wedi darganfod sut mae ei rôl yn gyrru’r hinsawdd atmosfferig wedi newid yn sylweddol.
Dangosodd y tîm ymchwil fod newidiadau yng Ngogledd Cefnfor Iwerydd cyn y cyfnod diwydiannol (cyn OC 1800), a achoswyd gan amrywiadau yng ngweithgarwch a ffrwydradau folcanig yr haul, yn gyrru ein hinsawdd ac wedi arwain at newidiadau yn yr atmosffer, a hynny wedyn wedi effeithio ar ein tywydd.
Fodd bynnag, mae hyn wedi newid yn ystod y cyfnod diwydiannol (1800-2000) ac mae’r newidiadau yng Ngogledd Cefnfor Iwerydd bellach yn cyd-ddigwydd â’r newidiadau yn yr atmosffer, neu’n digwydd ar eu hôl. Cred ymchwilwyr y gallai hyn fod oherwydd dylanwad nwyon tŷ gwydr.
Mae'r canlyniadau’n eithriadol o bwysig o ran deall sut gallai newidiadau yng Ngogledd yr Iwerydd effeithio ar yr hinsawdd a'r tywydd ar draws Hemisffer y Gogledd yn y dyfodol.
Cyhoeddwyd y canfyddiadau heddiw yn y cyfnodolyn Nature Communications.
Mae cragen fylchog y forwyn fawr, a elwir hefyd yn gragen fylchog galed neu’n gragen fylchog cawl, yn folwsg bwytadwy sy’n byw ym moroedd ysgafell gyfandirol Gogledd America ac Ewrop, a gall fyw am dros 500 o flynyddoedd.
Gall cemeg yng nghylchoedd tyfiant y cregyn bylchog – sy'n digwydd yn debyg iawn i’r cylchoedd tyfiant blynyddol yng nghanol coed – ddangos hefyd gyfansoddiad cemegol y cefnforoedd, fel bod ymchwilwyr yn gallu ail-lunio hanes sut mae'r moroedd wedi newid dros y 1000 mlynedd diwethaf gyda manylder dyddio nas gwelwyd o’r blaen.
Drwy gymharu’r cofnod hwn â chofnodion o amrywioldeb yr haul, echdoriadau folcanig a thymereddau aer atmosfferig, mae’r ymchwilwyr wedi gallu llunio darlun mwy ac wedi gallu ymchwilio i sut mae pob un o'r pethau hyn wedi cael eu cysylltu â’r llall dros gyfnod o amser.
Meddai Dr David Reynolds, prif awdur yr ymchwil, o Ysgol Gwyddorau'r Ddaear a'r Amgylchedd: "Mae ein canlyniadau’n dangos bod amrywioldeb yr haul a ffrwydradau folcanig yn chwarae rhan bwysig o ran llywio amrywioldeb yn y cefnforoedd dros y 1000 mlynedd diwethaf. Dangosodd y canlyniadau hefyd fod amrywioldeb morol wedi chwarae rhan weithredol wrth lywio newidiadau tymheredd aer Hemisffer y Gogledd yn y cyfnod cyn-ddiwydiannol.
"Ni welir y duedd hon yn ystod y cyfnod diwydiannol, lle mae newidiadau i dymheredd Hemisffer y Gogledd, wedi’u llywio gan elfennau gorfodi a grëwyd gan ddyn, yn rhagflaenu amrywioldeb yn yr amgylchedd morol."
Hyd yn hyn, mae arsylwadau allweddol o'r moroedd ond wedi cwmpasu’r 100 mlynedd diwethaf, fwy neu lai, tra mae ansicrwydd oed sylweddol ynghlwm wrth adluniadau sy’n defnyddio creiddiau o waddod morol. Mae hyn wedi cyfyngu ar allu ymchwilwyr i edrych ymhellach yn ôl mewn amser ac edrych ar y rôl y mae’r cefnfor yn ei chwarae yn y system hinsawdd ehangach gan ddefnyddio dadansoddiadau ystadegol manwl o'r fath.
Meddai’r Athro Ian Hall, cyd-awdur yr ymchwil, o Ysgol Gwyddorau'r Ddaear a'r Amgylchedd: "Mae ein canlyniadau’n tynnu sylw at her seilio ein dealltwriaeth o'r system hinsawdd ar gofnodion arsylwi byr ar y cyfan.
"Er eu bod yn debygol o gasglu rhywfaint o amrywioldeb naturiol, mae’n debygol fod tueddiadau anthropogenig cryf a welwyd dros y degawdau diwethaf yn celu gwir rythmau naturiol y system hinsawdd. Mae'r data hyn felly yn archif werthfawr iawn o gyflwr naturiol system y cefnfor a mynegiant newid anthropogenig dros y 1000 o flynyddoedd diwethaf.
"Er mwyn inni barhau i ddatblygu’r rhagolygon tymor agos mwyaf cadarn o newid hinsawdd yn y dyfodol rhaid inni barhau i ddatblygu adluniadau cadarn o amrywioldeb y cefnfor yn y gorffennol."
Cafodd yr astudiaeth o dan arweiniad Caerdydd ei hariannu gan NERC ac fe’i gwnaed ar y cyd ag ymchwilwyr o Brifysgol Bangor, Prifysgol Caerwysg, Prifysgol Talaith Iowa, Prifysgol Aarhus a Phrifysgol Gwlad yr Iâ.