Cemegwyr y dyfodol
2 Rhagfyr 2016
Bydd y cwmni y tu ôl i rai o'r brandiau iechyd, cartref a hylendid mwyaf adnabyddus y byd, gan gynnwys Dettol, Vanish, Durex, Nurofen ac Air Wick, yn cynnig cyngor gyrfaoedd i fyfyrwyr cemeg ym Mhrifysgol Caerdydd ddydd Gwener, 2 Rhagfyr.
Bydd prif gynrychiolwyr RB (Reckitt Benckiser yn flaenorol) yn rhoi syniad i fyfyrwyr o sut beth yw gweithio mewn cwmni rhyngwladol, ac yn esbonio proses RB ar gyfer datblygu a dyfeisio cynhyrchion. At hynny, bydd gweithdy ynglŷn â sut i wneud cyflwyniadau ac areithiau sy'n creu argraff, er mwyn helpu i wella sgiliau myfyrwyr wrth iddynt ddechrau meddwl am adael y brifysgol a datblygu eu gyrfaoedd.
Bydd myfyrwyr israddedig ac ôl-raddedig o Gaerdydd, Caerfaddon a Bryste yn mynd i'r digwyddiad, sy'n cael ei gynnal gan Ysgol Cemeg y Brifysgol.
Bydd y digwyddiad yn cael ei agor gan Dr Sharon James, Uwch Is-Lywydd Ymchwil a Datblygu Byd-eang yn RB, sy'n wreiddiol o Gaerdydd.
Wrth siarad cyn y digwyddiad, dywedodd Sharon: "Rydw i'n edrych ymlaen yn fawr at gwrdd â'r myfyrwyr a rhoi cyfle iddynt ddod i adnabod ein cwmni..."
Mae'r digwyddiad yn un o blith llawer a gynhelir yn y Brifysgol drwy gydol y flwyddyn, er mwyn rhoi cipolwg hynod werthfawr i fyfyrwyr ar fywyd ar ôl graddio, er mwyn eu paratoi ar gyfer y farchnad swyddi.
Mewn arolwg diweddar, rhoddodd Times Higher Education y Brifysgol ymhlith y sefydliadau gorau yn y DU ar gyfer paratoi graddedigion ar gyfer y gweithle. Roedd y Brifysgol yn gydradd 14eg yn y DU ar gyfer creu graddedigion sy'n barod ar gyfer byd gwaith, sy'n golygu bod y Brifysgol ymhlith y gorau yng Nghymru ar gyfer y categori hwn, ac yn un o'r gorau yn y DU y tu allan i Lundain.
Dywedodd yr Athro Rudolf Allemann, Pennaeth yr Ysgol Cemeg: "Mae'n hynod bwysig i'n myfyrwyr gael syniad o fywyd ar ôl y brifysgol, ac mae digwyddiadau fel hwn yn ffordd berffaith o ddangos yr amrywiaeth eang o yrfaoedd sydd ar gael iddynt ar ôl graddio..."
Mae RB ymhlith yr 20 cwmni uchaf ar Gyfnewidfa Stoc Llundain, a'i nod yw cynnig atebion arloesol i sicrhau bywydau mwy iach a chartrefi hapusach. Mae brandiau byd-eang RB yn arwain ei bortffolio iechyd, hylendid a chartrefi, ac mae’r rhain yn cynnwys Nurofen, Strepsils, Gaviscon, Durex, Dettol, Veet, Harpic, Finish a Vanish. Mae'r cwmni'n gweithredu mewn mwy na 60 o wledydd ac yn cyflogi 37,000 o staff.