Diagnostic tool for leading viral cause of birth defects
15 Hydref 2014
Mae ymchwilwyr o Brifysgolion Caerdydd ac Abertawe wedi cael grant o fwy na £323,000 i ddatblygu dyfais pwynt gofal newydd, anymwthiol, rhad a rhwydd ei defnyddio i wneud diagnosis oSytomegalofirws Dynol (HCMV).
Gall HCMV, sy'n aelod o'r teulu firysau herpes, arwain at ganlyniadau iechyd difrifol i'r rhai hynny sydd â systemau imiwnedd gwan, a chael "effaith ofnadwy" ar fenywod beichiog a'u babanod os cânt eu heintio.
Mae'r grant yn Ddyfarniad Datblygu Cynnyrch mawr ei fri o dan gynllun Dyfeisio i Arloesi (NIHR i4i) y Sefydliad Cenedlaethol dros Ymchwil Iechyd, ac fe'i rhoddwyd i Dr Vincent Teng o Goleg Peirianneg Prifysgol Abertawe, Dr Richard Stanton o'r Sefydliad Heintiau ac Imiwnedd yn Ysgol Meddygaeth Prifysgol Caerdydd, a Chanolfan Firoleg Arbenigol Cymru. Bydd yn cefnogi prosiect tair blynedd a ddechreuodd y mis hwn (1 Hydref 2014).
Caiff HCMV ei ledaenu trwy hylifau'r corff gan gynnwys poer, gwaed, llaeth y fron, semen a throeth, a bydd y rhan fwyaf o oedolion yn cael eu heintio â HCMV rywbryd yn ystod eu bywydau.
Pan fydd unigolyn yn cael ei heintio, bydd yn cario'r firws am oes, ond cyn belled ag y bydd pobl yn aros yn iach, mae'n annhebygol y byddant yn dangos unrhyw symptomau.
"Fodd bynnag, gall HCMV arwain at gymhlethdodau iechyd difrifol a hyd yn oed marwolaeth i'r rhai hynny sydd â systemau imiwnedd gwan, fel cleifion sydd â HIV a'r rhai hynny sydd wedi cael trawsblaniad organ," meddai Dr Teng, Athro Cyswllt a Phennaeth y Grŵp Ymchwil Nanoelectroneg ym Mhrifysgol Abertawe, a fydd yn arwain y gwaith.
"Mae'n achosi problem yn arbennig os caiff ei ddal gan fenyw yn ystod beichiogrwydd. Mae'n effeithio ar oddeutu un i ddau faban ym mhob 200 yn y Deyrnas Unedig, sy'n golygu ei fod yn fwy cyffredin na syndrom Down.
"Gall HCMV achosi anableddau parhaol fel arafwch meddwl, dallineb, byddardod, neu hyd yn oed farwolaeth, mewn babanod sy'n cael eu heintio. Nid yw llawer yn cael diagnosis ar adeg eu geni gan nad ydynt yn dangos symptomau, ond gallant golli eu clyw neu eu golwg, neu ddangos problemau datblygiadol, fisoedd neu flynyddoedd yn ddiweddarach.
"Mae canfod HCMV yn gynnar yn hollbwysig fel y gellir cymryd camau ymyrrol cyn gynted â phosibl i leihau effaith tymor hir y problemau hyn."
Mae'r prosiect hwn yn caniatáu ar gyfer ymchwilio a datblygu dyfais ddiagnostig newydd, anymwthiol, rhad a rhwydd ei defnyddio ar y pwynt gofal, a fydd yn gallu canfod HCMV yn uniongyrchol mewn troeth neu boer.
"Mae technoleg newydd o'r fath yn ddelfrydol ar gyfer rhaglenni sgrinio ar raddfa fawr," ychwanegodd Dr Teng. "Er enghraifft, yn y dyfodol, byddai'n bosibl sgrinio pob baban newydd-anedig ar gyfer y firws, gan olygu bod modd targedu triniaeth cyn i symptomau ddatblygu hyd yn oed.
"Rydym ni'n falch iawn o'r dyfarniad pwysig hwn gan ei fod yn caniatáu i ni ddatblygu dyfais arloesol a fydd yn cynnig dull cyflym, rhad a rhwydd ei ddefnyddio o ganfod pathogenau gan ddefnyddio nanotechnoleg.
"Mae'r ddyfais yn addas ar gyfer sgrinio am heintiau firaol ar raddfa fawr, ac mae ei sensitifrwydd a'i phenodoldeb rhagorol yn golygu na fydd angen anfon y sampl i'r labordy. Byddai hyn yn galluogi trin y clefydau'n gynnar ac yn effeithiol."
Gellir gweithgynhyrchu'r ddyfais gan ddefnyddio techneg argraffu, sy'n cynnig dull rhad o gynhyrchu'r dechnoleg ar raddfa fawr, er mwyn sicrhau hyfywedd masnachol. Mae hyn mewn cydweithrediad â'r cydymchwilydd Dr Davide Deganello, o Ganolfan Argraffu a Chaenu Cymru (WCPC) ym Mhrifysgol Abertawe.
Dywedodd Dr Richard Stanton: "Bob blwyddyn, mae hyd at 1,000 o fabanod yn cael eu geni yn y Deyrnas Unedig gydag anableddau parhaol o ganlyniad i haint HCMV. Mae'r prosiect hwn yn gyfle gwych i gyfuno arbenigedd mewn heintiau firaol ym Mhrifysgol Caerdydd, diagnosis firaol yng Nghanolfan Firoleg Arbenigol Cymru, nanotechnoleg ym Mhrifysgol Abertawe ac argraffu yn WCPC i wneud gwahaniaeth go iawn i'w hansawdd bywyd."
Gan groesawu'r newyddion am y dyfarniad grant, dywedodd Caroline Star, Cadeirydd CMV Action: "Rydym ni'n gyffrous iawn ynglŷn â'r prosiect arloesol hwn. Mae diagnosis cynnar o HCMV cynhenid yn hollbwysig er mwyn sicrhau bod teuluoedd yn gallu cael y driniaeth a'r monitro sydd eu hangen ar eu babanod. Yn anffodus, nid yw hyn yn digwydd yn aml.
"Mae'r teuluoedd a gynrychiolwn yn teimlo'n gryf y dylid gwneud mwy i sgrinio babanod newydd-anedig ar gyfer HCMV. Gobeithiwn y bydd y gwaith ymchwil hwn yn dangos sut y gellir gwneud hyn a helpu i gyfyngu effaith ofnadwy HCMV."
Datblygwyd syniad Dr Vincent Teng a Dr Richard Stanton am y prosiect trwy Grwsibl Cymru, sef rhaglen arobryn o ddatblygiad personol, proffesiynol ac arweinyddiaeth ar gyfer arweinwyr ymchwil Cymru yn y dyfodol, sy'n cefnogi arloesedd a ysbrydolir gan ymchwil a chydweithredu trawsddisgyblaethol yng Nghymru. Roedd Dr Teng a Dr Stanton wedi derbyn dyfarniadau a chymryd rhan yng Nghrwsibl Cymru yn 2012.