Prifysgol yn agor ystafell efelychu ddeintyddol £2m
2 Rhagfyr 2016
Bydd myfyrwyr yn Ysgol Deintyddiaeth Prifysgol Caerdydd nawr yn gallu manteisio ar ystafell efelychu newydd sbon sydd â'r cyfarpar diweddaraf ar gyfer ymarfer pob agwedd ar ddeintyddiaeth.
Bydd y cyfleuster hyfforddiant hynod soffistigedig, a agorwyd heddiw gan Vaughan Gething AC, Ysgrifennydd y Cabinet ar gyfer Iechyd, Lles a Chwaraeon, yn galluogi deintyddion, therapyddion deintyddol a hylenwyr deintyddol o dan hyfforddiant, i gynnal gweithdrefnau ar fodelau gweithdrefnau ar ddoliau cyn gweithio mewn clinigau cleifion.
Meddai'r Athro Mike Lewis, Deon a Phennaeth yr Ysgol Deintyddiaeth: "Yn hollbwysig, bydd y datblygiad hwn hefyd yn fodd o hyfforddi deintyddion, therapyddion deintyddol a hylenwyr deintyddol gyda'i gilydd fel grŵp aml-broffesiynol gan gyflawni dyhead Llywodraeth Cymru i roi'r gofal iechyd mwyaf effeithiol i'r boblogaeth."
Ychwanegodd yr Ysgrifennydd Iechyd, Vaughan Gething: “Bydd dod â therapyddion deintyddol, hylenwyr deintyddol a deintyddion ynghyd i gael hyfforddiant yn cynnig amgylchedd tebygach i'r un y byddant yn gweithio ynddo yn y dyfodol, ac rydw i'n credu y bydd hyn o les i gleifon."
Mae'n bwysig bod pob myfyriwr deintyddol yn dysgu sgiliau deintyddol sylfaenol mewn amgylchedd diogel fel yr ystafell efelychu newydd cyn symud i glinig newydd lle byddant yn trin cleifion o dan oruchwyliaeth agos. Bydd yr ystafell yn galluogi myfyrwyr i ddysgu nifer o sgiliau clinigol gan gynnwys llenwadau syml; triniaethau cig y dannedd; gweithdrefnau endodontig; gwaith pontio a gosod corunnau; dannedd gosod; a thynnu dannedd mewn llawdriniaethau. Byddant hefyd yn dysgu'r sgiliau technegol sy'n gysylltiedig ag adeiladu corunnau a dannedd gosod.
Bydd yr ystafell ar ei newydd wedd hefyd yn gwneud yn siŵr bod yr Ysgol yn parhau i fodloni rheoliadau'r Cyngor Deintyddol Cyffredinol er mwyn diogelu cleifion, a bydd yn gwella profiad y myfyrwyr yn sylweddol.
Meddai Thomas Cole, myfyriwr deintyddol israddedig: "Rydym i gyd wrth ein bodd gyda'r Labordy Sgiliau Clinigol yma yn Ysgol Deintyddiaeth Caerdydd. Mae'r cyfleusterau modern yn ein galluogi i ddatblygu ein sgiliau ymarferol mewn amgylchedd perffaith cyn symud ymlaen i glinigau cleifion. Rydym yn falch iawn ac yn teimlo'n freintiedig o gael y cyfle i ddysgu mewn cyfleusterau gwych o'r fath!"
Ysgol Deintyddiaeth Prifysgol Caerdydd yw'r unig ysgol deintyddiaeth yng Nghymru. Mae'n cynnig arweiniad unigryw a phwysig ym meysydd ymchwil ddeintyddol, addysgu a gofal i gleifion. Yn ôl y Guardian a the Times Good University Guide 2016 ni yw'r ysgol deintyddiaeth orau yn y DU, ac mae ein staff academaidd a chlinigol yn cael eu cydnabod fel arbenigwyr yn eu maes a'u bod yn rhoi gwasanaethau clinigol gwerthfawr i bobl Cymru yn ogystal â'u cyfrifoldebau academaidd. Roedd 95% o fyfyrwyr yr Ysgol hefyd yn fodlon eu byd yn ôl Arolwg Cenedlaethol y Myfyrwyr - BDS (2016) a 96% oedd y sgôr ar gyfer adnoddau dysgu.