Iris Prize Festival
13 Hydref 2014
Stori afaelgar am domboi deg oed sy'n cyflwyno ei theyrngarwch i'w brawd hŷn y gellir ymddiried ynddo fel y daw yn rhan o drosedd casineb i ennill ei hoffter a sicrhaodd y wobr Rheithgor Ieuenctid a noddir gan y Brifysgol yng Ngŵyl Gwobr Iris eleni.
Noddodd y Brifysgol Reithgor Ieuenctid Gwobr Iris a roddodd y cyfle i hyd at ddeg o bobl ifanc i chwarae rhan bwysig yn yr ŵyl.
Aeth y wobr Rheithgor Ieuenctid 2014 i Erin Sanger am ei ffilm fer 'Bombshell'.
Cynhaliwyd yr wythfed Gŵyl Gwobr Iris blynyddol mewn lleoliadau ledled Caerdydd, o'r 8-12 Hydref. Yn ystod yr ŵyl pedwar diwrnod, cystadlodd deg ar hugain o ffilmiau byr am y Wobr Iris tra chwenychedig.
Y prif enillydd ar gyfer ffilm fer eleni oedd 'All God's Creatures'. Fe wahoddir y sawl a'i creodd, Brendon McDonall, i wneud ffilm fer newydd, sy'n derbyn cyllid, cymorth ac arweiniad fel rhan o'r Wobr.
Yn ogystal â dangosiadau o bob un o'r ffilmiau sy'n cystadlu, cynhwysodd rhaglen yr ŵyl ffilmiau nodwedd newydd, sesiynau panel a digwyddiadau.
Mynegodd Karen Cooke, Cadeirydd Enfys, Rhwydwaith LGBT+ y Brifysgol, ei llawenydd gyda'r Brifysgol wrth iddi gefnogi'r Wobr Rheithgor Ieuenctid.
Dywedodd Karen: "Rydym wrth ein bodd bod y Brifysgol yn dangos ei chefnogaeth i'r Wobr Iris ac yn enwedig y Rheithgor Ieuenctid. Mae hyn yn parhau i adeiladu ar ein neges i'r gymuned leol a rhyngwladol fod Prifysgol Caerdydd yn lle cefnogol a chroesawgar ar gyfer darpar fyfyrwyr a staff LHDT+."
Mae Prifysgol Caerdydd yn cael ei rhestru yn y 100 o gyflogwyr uchaf Stonewall i gydnabod ei hymrwymiad i gydraddoldeb i weithwyr lesbiaidd, hoyw a deurywiol. Mae'r Brifysgol hefyd wedi ei chydnabod gan Stonewall am ei hymrwymiad i gefnogi myfyrwyr lesbiaidd, hoyw a deurywiol, gan sgorio marciau llawn yn y rhestr wirio Gay by Degree.
Gallwch gael gwybod mwy am yr ŵyl ynghyd â'r enillwyr a'r rhai ar y rhestr fer ar dudalennau gwe yr Ŵyl neu drwy ddilyn yr ŵyl ar Trydar.