Casgliad unigryw yn cael eu cyflwyno i gynulleidfa fyd-eang
1 Rhagfyr 2016
Bydd casgliad unigryw a gedwir gan y Brifysgol yn cael ei gyflwyno i gynulleidfaoedd ledled y byd diolch i grant newydd.
Mae Rhaglen Grantiau Catalogio yr Archifau Cenedlaethol, drwy gymorth hael llawer o bartneriaid rhyngwladol - wedi rhoi £38,601 i Gasgliadau Arbennig ac Archifau’r Brifysgol i restru Casgliad Collingwood.
Bydd yr arian hefyd yn gwneud i rannau o’r casgliad – sydd â gwerth o £2,250,000 - yn hygyrch yn ddigidol i gynulleidfaoedd eang ar draws y celfyddydau, gwyddorau cymdeithasol a gwyddorau naturiol.
Roedd teulu enwog Collingwood yn cynnwys artistiaid, archeolegwyr, awduron ac athronwyr. Mae dros 60 o flychau yn y casgliad hwn sydd heb ei restru ac maent cynnwys trysorfa o ddeunyddiau unigryw sydd wedi bod i raddau helaeth yn anhygyrch i’r cyhoedd.
Mae'r casgliad yn cynnwys llyfrau prin wedi'u llofnodi sy'n dyddio o'r unfed ganrif ar bymtheg, miloedd o gardiau post, dogfennau cyfreithiol, lluniau, brasluniau, paentiadau, miloedd o lythyrau sy'n dyddio o'r ddeunawfed ganrif, a dyddiaduron sy'n rhychwantu tair canrif.
Dywedodd Alan Vaughan Hughes, Pennaeth Casgliadau Arbennig ac Archifau y Brifysgol: “Mae Casgliad Collingwood yn adlewyrchu diddordebau’r teulu rhyfeddol hwn. Mae’n cwmpasu dros dair canrif o lawysgrif, deunyddiau cyfreithiol, artistig a deunyddiau wedi’u hargraffu.
"Mae'n amrywio o faterion teuluol yn unig, i gloddfeydd archeolegol, pensaernïaeth eglwysig, enghreifftiau gwych o ddogfennau cyfreithiol a phadiau braslunio Barbara Collingwood a’i thad, W. G. Collingwood..."
Roedd y Brifysgol yn un o’r wyth ymgeisydd llwyddiannus mewn cystadleuaeth brwd am yr arian hwn, a chafodd y grant uchaf a ddyfarnwyd gan y rhaglen yn 2016.