Coma Songs
10 Hydref 2014
Mae ymchwil academaidd i brofiadau teuluoedd sydd ag anafiadau difrifol i'w hymennydd wedi'i throsi'n rhaglen radio, er mwyn darparu mewnwelediad i'r penblethau torcalonnus maent yn eu hwynebu.
Mae 'Coma Songs', a gomisiynwyd gan BBC Radio 3 ar gyfer eu cyfres arloesol 'Between the Ears' yn defnyddio geiriau, seiniau, cerddoriaeth a barddoniaeth i archwilio gallu penodol meddygaeth fodern i achub y corff ond i beidio ag adfer yr ymennydd.
Gan ddefnyddio cyfweliadau a gynhaliwyd gan yr Athro Jenny Kitzinger o Brifysgol Caerdydd a'r Athro Celia Kitzinger o Brifysgol Caerefrog, sy'n gyd-gyfarwyddwyr Canolfan Ymchwil Caerefrog-Caerdydd i Anhwylderau Cronig yr Ymwybod, mae'r rhaglen yn defnyddio oriau o sgyrsiau wedi'u recordio gyda theuluoedd. Gan siarad gyda gonestrwydd llwyr am sut beth yw bod â pherthynas mewn coma neu gyflwr disymud tymor hir, mae 'Coma Songs' yn codi cwestiynau am y penblethau emosiynol a moesegol dwys maent yn eu hwynebu.
Mae'r rhaglen - a gynhyrchir ar y cyd gan yr Athro Jenny Kitzinger, yn gweithio ochr yn ochr â'r cynhyrchydd radio, Llinos Jones o Terrier Productions, yn cynnwys barddoniaeth sy'n cael ei darllen gan James Nash a cherddoriaeth fetel a gyfansoddwyd ac a genir gan Eliza Gregory - dau artist a gafodd fynediad llawn at drawsgrifiadau'r cyfweliadau er mwyn llywio eu dehongliad creadigol o brofiadau teuluol.
Yn wreiddiol, cafodd cyfweliadau sy'n ymddangos yn y rhaglen eu defnyddio mewn adnodd ar-lein healthtalk.org a gafodd ei lansio fis diwethaf i ddarparu cymorth i'r teulu a hyfforddiant i ymarferwyr sy'n ymwneud â gofalu am bobl sydd â ffurfiau difrifol ar anafiadau i'r ymennydd. Fodd bynnag, awgrymodd yr ymchwil fod angen ymgysylltu cymdeithasol ehangach â'r materion a godir, gan annog yr academyddion i fynd â'u gwaith ymhellach.
Dywedodd Jenny Kitzinger, Athro yn Ysgol Newyddiaduraeth, y Cyfryngau ac Astudiaethau Diwylliannol Prifysgol Caerdydd: "Yn aml, mae cynrychioliadau'r cyfryngau o goma a'r cyflwr disymud yn gorlunio beth mae bod 'mewn coma' yn ei olygu ac yn gorsymleiddio'r materion sydd ynghlwm. Trwy'r rhaglen hon, rydym wedi llwyddo i roi mewnwelediad i'r gwrandawyr i'r daith mae teuluoedd yn mynd trwyddi ar ôl anafiadau trychinebus i'r ymennydd a beth mae'n ei olygu i fod ag anwylyn mewn cyflwr disymud neu gyflwr o ymwybyddiaeth finimol hirfaith.
"Mae'r rhaglen yn gwahodd gwrandawyr i wynebu rhai o'r cwestiynau a'r penblethau allweddol a amlygir gan ein hymchwil. Mae'n archwilio anawsterau o ran dehongli ymwybyddiaeth a bod wrth erchwyn y gwely, megis beth allai ei olygu pan fydd claf yn agor ei lygaid, a chwestiynau sy'n peri gofid ynglŷn â gwneud penderfyniadau am ddiwedd bywyd."
Dywedodd yr Athro Celia Kitzinger, o Adran Cymdeithaseg Prifysgol Caerefrog: "Mae'r rhaglen radio greadigol hon yn cipio agweddau ar ddarganfyddiadau'r ymchwil sy'n anodd eu cyfleu mewn cylchgrawn dysgedig - yr allfa draddodiadol ar gyfer darganfyddiadau academaidd. Mae angen i'r materion a godir gael eu llywio gan ddadleuon academaidd ond iddynt fynd y tu hwnt iddynt - mae'r heriau a godir gan feddygaeth yn yr unfed ganrif ar hugain yn effeithio arnom i gyd. Mae'r rhaglen radio hon yn gyfraniad at y ddadl gyhoeddus ehangach honno."
Caiff 'Coma Songs' ei darlledu nos Sadwrn 11 Hydref am 10pm ar BBC Radio 3. I gael rhagor o wybodaeth, ewch ihttp://www.bbc.co.uk/programmes/b04l30wr
Cydnabyddiaeth am y ddelwedd: "Wordless" (manylyn) gan Tim Sanders