Adeiladu System Arloesedd i Gymru
1 Rhagfyr 2016
Sut gall Cymru adeiladu rhwydwaith o ganolfannau arloesedd busnes sy'n gallu creu swyddi a hybu'r economi?
Bydd pedwar o entrepreneuriaid ac arbenigwyr blaenllaw yn rhoi eu barn am ffyrdd newydd o weithio mewn digwyddiad gan Rwydwaith Arloesedd Prifysgol Caerdydd ar 7 Rhagfyr.
Byddant yn trin a thrafod sut gallai Cymru ddatblygu rhwydwaith o Ganolfannau Arloesedd a Meithrin fydd yn cynnwys masnachwyr unigol, microfusnesau a busnesau bach a chanolig, yn ogystal â chwmnïau corfforaethol mawr a rhyngwladol.
Dyma'r siaradwyr yn y digwyddiad: Gareth Jones, Prif Swyddog Gweithredol Canolfan Arloesedd Menter Cymru; Victoria Norman, Sylfaenydd Signum; Dr John Justin, Pennaeth Datblygu Canolfannau Meithrin yng Nghanolfan Gwyddorau Bywyd Cymru, a Dr Nick Bourne, Pennaeth Datblygu Masnachol ym Mhrifysgol Caerdydd.
Meddai Gareth Jones: "Mae gan arloesedd rôl allweddol er mwyn tyfu economi Cymru..."
Ychwanegodd Nick Bourne, sydd hefyd yn Bennaeth Rhwydwaith Arloesedd Caerdydd: "Mae canolfannau arloesedd yn cynnig amgylcheddau arloesol ac yn creu cymunedau cefnogol sy'n hanfodol er mwyn i'r economi a fusnesau allu tyfu a ffynnu..."
Bydd y digwyddiad yn crynhoi llwyddiant Canolfan Arloesedd Menter Cymru ac yn ystyried dyfodol Canolfannau Arloesedd yng Nghymru. Bydd hefyd yn edrych ar rôl Canolfan Arloesedd Prifysgol Caerdydd ac yn rhannu profiad y defnyddwyr.
Cynhelir y digwyddiad rhad ac am ddim hwn yn y Ganolfan Addysgu Ôl-raddedig, Ysgol Busnes Caerdydd, Rhodfa Colum, Caerdydd. CF10 3EU. Bydd cofrestru'n agor am 6pm a bydd y cyflwyniadau'n dechrau am 6.30pm.
Gofynnir i'r rhai sydd am ddod gofrestru ymlaen llaw yma.
Bydd lluniaeth a chyfle i rwydweithio ar ôl y sesiwn.
Mae Rhwydwaith Arloesedd hynod lwyddiannus Prifysgol Caerdydd yn cynnal cyfres o ddigwyddiadau rhad ac am ddim drwy gydol y flwyddyn. Mae'n dod â busnesau, sefydliadau a'r byd academaidd ynghyd ynghylch thema arloesedd.