Prosiect Mentora Myfyrwyr Ieithoedd Modern
30 Tachwedd 2016
Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, Kirsty Williams, wedi ymweld ag ysgol uwchradd yn ne Cymru i weld y rhaglen Ieithoedd Tramor Modern lwyddiannus ar waith.
Mae prosiect peilot Mentora Ieithoedd Tramor Modern yn gynllun a ariennir gan Lywodraeth Cymru o dan ei chynllun Dyfodol Byd-eang pum mlynedd o hyd. Ei nod yw cynyddu'r niferoedd sy'n astudio ac yn dysgu ieithoedd yng Nghymru.
Mae Ysgol Gyfun Bryn Hafren yn y Barri yn un o 48 o ysgolion ledled Cymru sy'n cymryd rhan yn y peilot lle caiff ieithyddion modern israddedig o brifysgolion Aberystwyth, Bangor, Caerdydd ac Abertawe eu hyfforddi i fentora disgyblion blwyddyn 9 dros gyfnod o chwe wythnos.
Mae 12 disgybl o Fryn Hafren wedi'u henwebu i gael eu mentora gan israddedigion ieithoedd ail flwyddyn ym Mhrifysgol Caerdydd.
Dywedodd Amy Walters-Bresner, Pennaeth Ieithoedd ym Mryn Hafren: "Bwriad ac amcan clir Bryn Hafren wrth gymryd rhan yn y peilot mentora hwn yw cynyddu nifer y disgyblion sy'n astudio ieithoedd tramor modern yng Nghyfnod Allweddol 4. Bydd yn codi dyheadau ac yn gwneud i'r disgyblion gredu eu bod yn gallu llwyddo, a bod dysgu iaith yn sgil gydol oes..."
"Yn wir, rydyn ni wedi cael adborth anhygoel drwy lais y myfyrwyr eleni, ac mae rhestr aros erbyn hyn o ddisgyblion a hoffai gymryd rhan. Mae'r data am y rhai a gymerodd ran yn y peilot y llynedd yn ategu effaith y prosiect gan fod ieithoedd tramor modern yn parhau i fod yn ddewis poblogaidd yng Nghyfnod Allweddol 4 am yr ail flwyddyn."
Ac yntau yn ei ail flwyddyn erbyn hyn, mae'r peilot mentora yn llwyddo i godi proffil yr ieithoedd hyn ac yn cynyddu nifer y disgyblion sy'n astudio iaith dramor fel pwnc TGAU. Mae hefyd yn ehangu gorwelion y disgyblion ac yn codi disgwyliadau.
Fe gymerodd 27 o ysgolion ran yng ngham un y prosiect, a dywedodd dros hanner ohonynt bod niferoedd uwch yn eu dosbarthiadau TGAU, gan gynnwys un ysgol lle caiff dosbarth TGAU mewn ieithoedd tramor ei gynnal am y tro cyntaf ers tair blynedd. Mae'r galw wedi cynyddu'n sylweddol yng ngham dau gan fod 48 o ysgolion yn cymryd rhan ynddo erbyn hyn ac mae 18 o ysgolion eraill wedi gofyn am gael cymryd rhan yn y prosiect.
Dywedodd Kirsty Williams, Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg: "Mae'n wych gweld ein prifysgolion, consortia rhanbarthol ac ysgolion yn dod ynghyd i gefnogi a llywio'r cynllun hwn er mwyn annog mwy o ddisgyblion i astudio ieithoedd..."
"Rydw i am i'n dysgwyr fod mewn sefyllfa i fanteisio ar y cyfleoedd niferus a gynigir gan yr economi fyd-eang."
Ychwanegodd yr Athro Claire Gorrara, Academydd Arweiniol y prosiect:"Mae'r peilot wedi datblygu partneriaethau llwyddiannus ledled Cymru gan adeiladu cymuned iaith fodern sy'n dod â phrifysgolion, consortia addysgol ac ysgolion ynghyd. Mae'r model partneriaeth yma wedi llwyddo i gefnogi ieithyddion ifanc modern yng Nghymru..."
Mae peilot Mentora Ieithoedd Tramor Modern wedi creu model partneriaeth llwyddiannus sy'n dod ag ysgolion, y pedwar consortia addysg a phedair o brifysgolion Cymru ynghyd.