Buddiannau asbirin dyddiol yn gwrthbwyso'r risg i'r stumog
30 Tachwedd 2016
Mae achosion o waedu yn y stumog o ganlyniad i asbirin yn llai difrifol o lawer na gwaedu digymell a all digwydd mewn pobl nad ydynt yn cymryd y cyffur, yn ôl astudiaeth dan arweiniad Prifysgol Caerdydd.
Mae'r astudiaeth helaeth o'r llenyddiaeth ymchwil am asbirin, a gyhoeddwyd yng nghyfnodolyn Public Library of Science, yn dangos nad oes unrhyw dystiolaeth ddilys bod achosion o waedu o ganlyniad i asbirin wedi arwain at farwolaethau, er bod defnyddio'r cyffur yn rheolaidd yn cynyddu'r risg o waedu yn y stumog tua 50%.
Dywedodd yr Athro Peter Elwood o Ysgol Meddygaeth Prifysgol Caerdydd: "Er bod llawer o bobl yn defnyddio asbirin bob dydd i leihau'r risg o broblemau iechyd megis canser a chlefyd y galon, mae cyfyngiad sylweddol ar ddefnydd mwy eang o'r cyffur oherwydd y sgîl effaith o waedu yn y stumog...”
Clefyd y galon a chanser yw'r prif achosion o farwolaeth ac anableddau ledled y byd, ac mae gwaith ymchwil wedi dangos bod dos dyddiol bach o asbirin yn gallu lleihau'r tebygolrwydd o gael y clefydau gan tua 20-30%.
Mae ymchwil ddiweddar wedi dangos bod rhoi dosau isel o asbirin i gleifion â chanser, ochr yn ochr â chemotherapi a/neu radiotherapi, yn driniaeth ychwanegol effeithiol, ac yn lleihau'r gyfradd marwolaethau ymhlith cleifion â chanser y coluddyn, a chanserau eraill o bosibl, gan 15%.
Mae'r astudiaeth ‘Systematic review and meta-analysis of randomised trials to ascertain fatal gastrointestinal bleeding events attributable to preventive low-dose aspirin: No evidence of increased risk’ ar gael yn Public Library of Science.
Roedd yr astudiaeth yn adolygiad trefnus ac yn feta-ddadansoddiad o hapdreialon. Y math hwn o ymchwil sy’n rhoi’r dystiolaeth gryfaf ar gyfer dod i gasgliadau achosol gan ei bod yn dod â’r holl dystiolaeth orau ynghyd.