Herio trais ar sail rhywedd a thrais rhywiol
30 Tachwedd 2016
Mae canllaw arloesol ar gyfer helpu pobl ifanc i godi ymwybyddiaeth o drais ar sail rhywedd a thrais rhywiol mewn ysgolion a chymunedau lleol yng Nghymru wedi’i lansio.
AGENDA: Canllaw pobl ifanc ar wneud i berthnasau cadarnhaol gyfrif yw pecyn cymorth ar-lein cenedlaethol cyntaf Cymru - a’r Deyrnas Unedig - ac fe’i lluniwyd mewn partneriaeth â phobl ifanc, ar gyfer pobl ifanc.
Dan arweiniad Prifysgol Caerdydd ac wedi’i lunio ar y cyd ag NSPCC Cymru/Wales, Cymorth i Ferched Cymru, Comisiynydd Plant Cymru a Llywodraeth Cymru, mae AGENDA yn cynnig syniadau i bobl ifanc ynghylch sut gallant godi llais yn ddiogel ac yn greadigol ynghylch anghydraddoldebau rhwng y rhywiau sydd wedi hen wreiddio, trais ar sail rhywedd a thrais rhywiol, a herio’r rhain.
Fe wnaeth grŵp o bobl ifanc o bob cwr o Gymru helpu i’w ddatblygu ac mae’n cynnwys 11 astudiaeth achos ar nifer o faterion yn ymwneud â pherthynas, gan gynnwys cydraddoldeb rhywiol, aflonyddu rhywiol ac anffurfio organau cenhedlu benywod (FGM).
Y pynciau sy’n cael sylw yn y canllaw yw rhai o brif bryderon y bobl ifanc sy'n cysylltu â gwasanaeth Childline yr NSPCC. Y llynedd, roedd pryderon ynghylch cyfeillgarwch a phroblemau yn yr ysgol yn cyfrif am fwy na 33,000 o sesiynau cwnsela ledled y DU. Mewn arolwg gan Gomisiynydd Plant Cymru o dros 2,000 o bobl ifanc rhwng 11 a 18 oed y llynedd, dywedodd bron traean eu bod yn teimlo’n bryderus yn aml neu bron bob amser, gyda bron un o bob pump yn dweud eu bod yn teimlo’n drist yn aml neu bron bob amser.
O ymgyrchoedd hashnod a'r celfyddydau gweledol i farddoniaeth a deisebau, mae AGENDA yn cynnwys tasgau fel What Jars You; sy’n annog pobl i gofnodi’r materion anghydraddoldeb ac annhegwch sy’n dân ar eu croen.
Gan amlygu a rhannu’r gwaith da a’r arferion creu newid sydd eisoes yn mynd rhagddynt yng Nghymru, bwriad AGENDA yw ysbrydoli eraill i gymryd rhan a gellir ei fabwysiadu gan ysgolion neu grwpiau cymunedol.
Meddai Pennaeth NSPCC Cymru/Wales, Des Mannion: "Mae hwn yn brosiect hynod arwyddocaol sy'n dangos bod Cymru'n arwain y ffordd ar y materion pwysig sy'n effeithio ar ein plant a'n pobl ifanc..."
Ychwanegodd yr Athro Emma Renold, Prifysgol Caerdydd: "AGENDA yw canlyniad proses gydgynhyrchiol arloesol sydd wedi gwrando a gweithredu ar bryderon ac anghenion plant a phobl ifanc eu hunain i gymryd rhan weithgar mewn herio a newid diwylliant hollbresennol o ragfarn gyffredin ar sail rhyw ac aflonyddu rhywiol mewn cyd-destunau lleol a byd-eang.
"Mae'n becyn cymorth blaengar, ac yn elfen graidd hanfodol o ddull addysg gyfan o ymdrin â pherthnasoedd iach sydd â’i wreiddiau mewn dull seiliedig ar hawliau a chydraddoldeb rhwng y rhywiau.
"Rwy'n edrych ymlaen at ddatblygu cyfres o weithdai hyfforddiant ar gyfer pobl ifanc ac ymarferwyr, mewn ysgolion, grwpiau ieuenctid a lleoliadau preswyl, ac ar draws y trydydd sector. Rhannu potensial AGENDA a’i wreiddio mewn ymarfer, o wersi ABCh i Fagloriaeth Cymru, yw'r cam nesaf wrth inni symud yn nes tuag at ddull addysg gyfan o ddod â thrais yn erbyn menywod a merched, cam-drin domestig a thrais rhywiol i ben.”
Meddai Sally Holland, Comisiynydd Plant Cymru: "Cryfder pennaf AGENDA yw ei fod yn rhoi’r grym i bobl ifanc fynd i’r afael eu hunain â rhai o’r problemau mwyaf dybryd sy’n wynebu eu cenhedlaeth. Dylai defnyddio’r pecyn wella bywyd pobl ifanc a’u galluogi i ddatblygu’n oedolion ifanc gwydn..."
“I’m looking forward to developing a suite of training workshops for young people and practitioners, in schools, youth groups and residential settings and across the third sector. Sharing the potential of AGENDA and embedding it in practice, from PSE lessons to the Welsh Baccalaureate is the next step as we move closer towards a whole-education approach to end violence against women and girls, domestic abuse and sexual violence. ”
Sally Holland, Children’s Commissioner for Wales, said: “AGENDA’s biggest strength is that it empowers young people to tackle themselves some of the most pressing issues facing their generation. Its use should enhance and improve the lives of young people and enable them to become resilient young adults..."
Ychwanegodd Eleri Butler, Prif Weithredwr Cymorth i Ferched Cymru: “Mae plant a phobl ifanc yn profi lefelau uchel o ragfarn ar sail rhyw a thrais ar sail rhywedd, gyda hyd at 70% o ferched rhwng 11 ac 21 oed yn dweud bod rhagfarn ar sail rhyw mor gyffredin fel ei bod yn effeithio ar bron pob agwedd ar eu bywydau..."
"Yng Nghymorth i Ferched Cymru, rydym yn gweithio mewn partneriaeth â gwasanaethau arbenigol i atal trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol, ac mae’r rhain yn darparu hyfforddiant i weithwyr proffesiynol a rhaglenni addysg mewn ysgolion a chymunedau, ac yn cynnig cymorth hanfodol, sy’n aml yn achub bywyd, i blant a phobl ifanc sydd wedi’u heffeithio gan drais a cham-drin. Ledled Cymru, mae angen inni ymuno â phlant a phobl ifanc i sicrhau bod cydraddoldeb rhywiol ar agenda pawb."
Bydd AGENDA yn cael ei lansio ar 30 Tachwedd 2016 ym mhresenoldeb dros 100 o bobl ifanc, ymarferwyr a llunwyr polisi yn Adeilad y Pierhead, Bae Caerdydd.
Bydd yn ategu un o elfennau craidd y canllaw a gyhoeddwyd yn ddiweddar gan Lywodraeth Cymru (2015), ‘Canllaw Arfer Da: Dull Addysg Gyfan o Ymdrin â Thrais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol yng Nghymru.’
Meddai Carl Sargeant, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant:"Mae'r canllaw hwn yn helpu plant a pobl ifanc i sylweddoli pwysigrwydd datblygu perthynas llawn ymddiriedaeth. Mae'n sail ar gyfer trafodaeth ynghylch pob math o faterion megis aflonyddu rhywiol a cham-drin domestig..."