Arolwg yn ymchwilio i’r farchnad lyfrau i blant
25 Tachwedd 2016
Academydd nodedig yn cynnal Arolwg Cenedlaethol Llyfrau Plant a Phobl Ifanc Cymraeg.
Mae Dr Siwan Rosser, darlithydd yn Ysgol y Gymraeg, Prifysgol Caerdydd, ac arbenigwraig ar lenyddiaeth plant wedi’i chomisiynu gan Gyngor Llyfrau Cymru i gynnal Arolwg Cenedlaethol ar Lyfrau Plant a Phobl Ifanc yn y Gymraeg.
Bwriad yr arolwg yw pwyso a mesur sefyllfa’r farchnad lyfrau i blant a phobl ifanc ar hyn o bryd. Yn ogystal ag asesu data ac ymchwil ar lyfrau Cymraeg i ddarllenwyr ifanc, bydd yr arolwg yn casglu barn gan gyhoeddwyr, llyfrwerthwyr, llyfrgellwyr, darllenwyr, athrawon a rhieni drwy gyfweliadau a grwpiau ffocws.
Hefyd, er mwyn rhoi’r cyfle i gymaint o bobl ag sy’n bosibl gymryd rhan, mae Dr Rosser wedi llunio holiadur ar-lein sy’n cynnwys cwestiynau wedi eu hanelu at blant, pobl ifanc ac oedolion sy’n darllen ac yn prynu llyfrau Cymraeg. Mae modd i unrhyw un sy’n cymryd diddordeb mewn llyfrau plant a phobl ifanc gyfrannu at yr arolwg drwy ddilyn y ddolen hon tan 8 Ionawr 2017.
Dywed Dr Rosser: “Mae hwn yn gyfnod cyffrous ond heriol i’r diwydiant llyfrau plant a phobl ifanc. Gydag addysg Gymraeg ar dwf mae’r galw am ddeunydd atyniadol yn cynyddu, ond mae’r hinsawdd economaidd bresennol yn cyfyngu ar yr hyn sy’n bosibl i’w gyflawni. Sut felly allwn ni ymateb yn greadigol i’r her o sicrhau bod y Gymraeg yn iaith sy’n bwydo dychymyg ein plant a’n pobl ifanc? Dyma gyfle i chi ddweud eich dweud am yr hyn yr hoffech chi ei weld ar eich silffoedd llyfrau.”
Ni ddylai’r holiadur gymryd llawer yn fwy na 10 munud i’w gwblhau ac mae ar agor i gynulleidfa eang – unrhyw un sy’n ymwneud â darllen, prynu, dysgu neu hyrwyddo llyfrau Cymraeg i blant a phobl ifanc. Fe anogir unrhyw un sydd yn cwblhau’r holiadur i ddanfon y ddolen ymlaen at ffrindiau, plant, rhieni ac athrawon fel bod modd casglu cymaint o atebion a data sydd yn bosib cyn y dyddiad cau ar 8 Ionawr 2017.
Atebwch yr holiadur trwy’r ddolen: Arolwg Cenedlaethol Llyfrau Plant a Phobl Ifanc Cymraeg
Mae fersiwn Saesneg ar gyfer rhieni, llyfrwerthwyr neu lyfrgellwyr di-Gymraeg hefyd ar gael.
Os hoffech ragor o fanylion am yr Arolwg, cysylltwch â Siwan Rosser neu dilynwch hi ar Twitter:@SiwanRosser.