Mynediad diogel a dibynadwy at ddŵr
25 Tachwedd 2016
Mae ymchwilwyr ym Mhrifysgol Caerdydd yn archwilio’r dewisiadau dŵr y mae aelwydydd a chymunedau yn y byd sy'n datblygu yn eu gwneud, i ddeall sut maent yn dylanwadu ar allu cymunedau i wrthsefyll ergydion amgylcheddol yn y dyfodol.
Gyda chefnogaeth Cyngor Ymchwil yr Amgylchedd Naturiol, bydd yr ymchwilwyr yn gweithio gydag academyddion o Nigeria, ym Mhrifysgolion Ibadan a Maiduguri, ochr yn ochr â phartneriaid yn Arolwg Daearegol Prydain a Sefydliad Skat, i ystyried sut mae'r dewisiadau hyn yn effeithio ar les a gwydnwch y cymunedau dan sylw, nawr ac yn y dyfodol.
Meddai’r Athro Gillian Bristow arweinydd y prosiect: "Ar draws rhannau helaeth o Affrica, mae mynediad at gyflenwadau dŵr diogel a dibynadwy yn nod i aelwydydd a gwneuthurwyr polisi fel ei gilydd. Fe'i gwelir yn ffordd o fynd i'r afael ag iechyd gwael a thlodi ac i hyrwyddo manteision economaidd ehangach. Yng nghyd-destun poblogaethau sy’n tyfu, mwy a mwy o drefoli a disgwyliadau uwch y gymdeithas, mae gallu cyflenwadau dŵr i wrthsefyll peryglon amgylcheddol yn bryder cynyddol o ran lles cymunedau yn y dyfodol."
Meddai Dr. Adrian Healy, o’r Ysgol Daearyddiaeth a Chynllunio: "Mae cronfeydd dŵr daear yn chwarae rôl allweddol wrth ddarparu gwasanaethau cyflenwad dŵr cydnerth. Fodd bynnag, mae’r cronfeydd wrth gefn hyn o dan bwysau fwyfwy, nid yn unig o ergydion amgylcheddol posibl, ond hefyd y cynnydd cyflym yn nifer a maint y ffynhonnau a thyllau turio sy’n cael eu datblygu’n breifat. Mae hyn yn peri risgiau i ansawdd a maint y cyflenwad dŵr daear, fel sy’n wir am Asia lle dywedir bod dros hanner y cronfeydd dŵr daear wedi’u halogi gormod i’w defnyddio".
Mae'r dewisiadau sy’n cael eu gwneud nawr wrth leoli ffynhonnau, ansawdd a ffurf eu hadeiladwaith a lefelau tynnu dŵr, yn cael effeithiau hirdymor ar ansawdd adnoddau dŵr daear yn lleol ac yn ehangach, faint o ddŵr sydd ar gael i’w dynnu, hygyrchedd cyflenwadau i wahanol grwpiau cymdeithasol ac i ba raddau y mae’r adnodd yn agored i ergydion yn y dyfodol. Eto, prin yr ydym yn deall natur y dewisiadau hyn a’r hyn sy’n eu gyrru.
Ychwanegodd yr Athro Lorraine Whitmarsh o’r Ysgol Seicoleg: "Efallai mai dyfnhau ein dealltwriaeth o'r ffactorau sy'n dylanwadu ar ddewisiadau gwahanol yw’r her fwyaf sy'n wynebu'r rhai sy'n ceisio sicrhau datblygu systemau cyflenwi dŵr sy'n gwrthsefyll heriau amgylcheddol yn y dyfodol. Mae gwneud hynny’n cynnwys nid yn unig deall nodweddion technegol ac economaidd ond hefyd y cyflyru cymdeithasol ar ganfyddiadau risg, gan gynnwys rôl y cyfryngau gwahanol wrth lunio naratifau."
I ateb yr her hon mae Prifysgol Caerdydd wedi dwyn ynghyd gyfuniad unigryw o sgiliau rhyngddisgyblaethol a fydd yn cynnig dealltwriaeth newydd pan ddaw’r prosiect i ben ym mis Awst y flwyddyn nesaf.