Prosiect newydd yn ceisio cryfhau'r economi greadigol a diwylliannol
23 Tachwedd 2016
Mae prosiect newydd i ddatblygu partneriaethau rhwng y sector celfyddydau a dyniaethau a phrifysgolion yn Ne-ddwyrain Cymru a De-orllewin Lloegr, er mwyn sbarduno twf economaidd, wedi cael ei ariannu.
Mae Cynghrair GW4, sy'n dod â phedair prifysgol ymchwil-ddwys flaenllaw ynghyd, sef Caerfaddon; Bryste; Caerdydd a Chaerwysg, wedi cael cyllid gan Gyngor Ymchwil y Celfyddydau a'r Dyniaethau i gynnal prosiect i annog cydweithio rhwng prifysgolion, sefydliadau diwylliannol ac awdurdodau lleol i dyfu'r economi greadigol a diwylliannol yn Ne-ddwyrain Cymru a De-orllewin Lloegr.
Mae GW4 yn hen law ar gydweithio gyda rhai o'r sefydliadau mwyaf dylanwadol yn y rhanbarth i wneud gwaith ymchwil arloesol. Bydd y prosiect yn ychwanegu at yr ethos arloesol hwn, a llwyddiannau'r cynlluniau yn y rhanbarth, megis REACT, a oedd yn annog cydweithio rhwng ymchwilwyr ym maes y celfyddydau a'r dyniaethau, a busnesau bach a chanolig.
Dywedodd yr Athro Mark Llewellyn, Cyfarwyddwr Ymchwil yng Nghyngor Ymchwil y Celfyddydau a'r Dyniaethau: "Mae prifysgolion yn gweithio'n gynyddol mewn cynghreiriau cydweithredol yn eu rhanbarthau, gan gydweithio ar ymchwil, rhannu cyfleusterau a manteisio i'r eithaf ar gryfderau cyfunol y sefydliadau, er mwyn datblygu ymagweddau newydd at ymchwil. Yn aml, mae'r trefniadau hyn yn canolbwyntio ar ddisgyblaethau ym maes gwyddoniaeth. Fodd bynnag, mae gan y celfyddydau a'r dyniaethau lawer i'w gyfrannu, gan gynnwys themâu ymchwil trawstoriadol ac arloesedd ym meysydd fel yr economi greadigol. Maent hefyd yn ymgysylltu a chydweithio â sefydliadau a chymunedau y tu hwnt i'r byd academaidd.
"Mae'r gwaith y mae Cyngor Ymchwil y Celfyddydau a'r Dyniaethau wedi'i gefnogi'n flaenorol ym mhartneriaeth N8 wedi tynnu sylw at y potensial i brifysgolion yng Ngogledd Lloegr feddwl am y rôl gryfach y gallai'r celfyddydau a'r dyniaethau ei chael yng ngwaith y consortiwm mewn perthynas â thestunau ymchwil penodol. Mae prosiect GW4 yn rhoi cyfle i'r Cyngor, a'r prifysgolion sy'n cymryd rhan, i ystyried sut gall gwaith o'r fath gael ei ysgogi a'i wella drwy annog ymchwilwyr i arwain wrth arbrofi â phosibiliadau, ac i roi cynnig ar fodelau y gallai sefydliadau a grwpiau rhanbarthol eraill eu defnyddio yn y dyfodol."
Fel rhan o brosiect 'Llenwi'r Bwlch', bydd GW4 yn canolbwyntio ar y meysydd canlynol: yr economi greadigol, treftadaeth, ieithoedd modern a'r dyniaethau amgylcheddol.
Bydd y prosiect yn ymchwilio i werth ymchwil ym maes y celfyddydau a'r dyniaethau i'r economi greadigol a diwylliannol ranbarthol, a'r mecanweithiau sydd eu hangen i fanteisio ar y gwerth hwn. Bydd ymchwilwyr yn gwerthuso'r sefydliadau a'r cysylltiadau sydd eisoes yn bodoli, ac yn datblygu modelau i wella cysylltedd a datblygu partneriaethau newydd, yn seiliedig ar anghenion penodol pob ardal.
Dywedodd yr arweinydd academaidd, Tim Cole, Athro Hanes Cymdeithasol a Chyfarwyddwr y Sefydliad Brigstow ym Mhrifysgol Bryste: "Mae llawer o academyddion yn cydweithio'n agos â phartneriaid y tu allan i'r brifysgol, ond anaml iawn y cânt gyfle i fyfyrio ar yr hyn y maent wedi'i ddysgu yn ystod y broses. Mae'r prosiect hwn yn gyfle i wneud hynny, ac i wthio pethau ychydig yn bellach drwy arbrofi gyda'n gilydd ar fecanweithiau newydd ar gyfer cydweithio ar draws y celfyddydau a'r dyniaethau, a'r sectorau treftadaeth ac economi greadigol sydd mor bwysig i'n heconomi a'n hunaniaeth ranbarthol."
Mae potensial enfawr i dyfu economi greadigol De-ddwyrain Cymru a De-orllewin Lloegr, lle disgrifiwyd y cysylltiadau diwylliannol rhwng y dinasoedd fel 'cryf' mewn astudiaeth ddiweddar gan Nesta o'r enw 'The Geography of Creativity in the UK'.
Dywedodd yr Athro Fonesig Glynis Breakwell, Is-Ganghellor a Llywydd Prifysgol Caerfaddon a Chadeirydd Cyngor GW4: "Mae ein rhanbarth yn gartref i economi greadigol ffyniannus – y gorau o ran cyflogaeth, ar ôl Llundain – ac mae ganddo gryfderau ymchwil sylweddol ym maes y dyniaethau digidol. Rydym yn gyffrous i allu ychwanegu at y llwyddiannau hyn drwy gysylltu sefydliadau creadigol â phrifysgolion er mwyn hybu ein heconomi ranbarthol ac i sicrhau dyfodol mwy cynaliadwy ar gyfer sectorau'r celfyddydau, treftadaeth a diwylliant yn Ne-ddwyrain Cymru a De-orllewin Lloegr."
Canlyniad y prosiect fydd adroddiad â chyfres o argymhellion ar gyfer gwaith ymchwil a phartneriaethau yn y dyfodol i gryfhau'r economi greadigol a rhanbarthol, a fydd yn cael ei gyhoeddi yn 2017.