Dyfarnu Diffygiol
24 Tachwedd 2016
Mae technolegau fel Hawk-Eye yn tanseilio awdurdod dyfarnwyr ac yn gamarweiniol pan gânt eu defnyddio yn y byd chwaraeon, yn ôl llyfr newydd gan ymchwilwyr ym Mhrifysgol Caerdydd.
Mae Bad Call yn edrych ar y technolegau sy’n cael eu defnyddio i wneud penderfyniadau mewn chwaraeon, yn ymchwilio i’w gweithrediad, ac yn esbonio’r canlyniadau a’r gwelliannau posibl.
Gan ailddadansoddi tri thymor o bêl-droed yn Uwchgynghrair Lloegr, darganfu’r ymchwilwyr o Ysgol Gwyddorau Cymdeithasol y Brifysgol y dylid diystyru technoleg llinell gôl gan fod cynifer o benderfyniadau anghywir yn cael eu gwneud mewn perthynas â chiciau o’r smotyn, camsefyll, cardiau coch ac ati, a hynny i’r fath raddau nes y dylai timau gwahanol fod wedi ennill yr Uwchgynghrair, cael lle yng Nghynghrair y Pencampwyr a gostwng i’r Bencampwriaeth.
Mewn tennis, mae’r ymchwilwyr yn dadlau bod y penderfyniad i ddefnyddio Hawk-Eye neu systemau tebyg i wrthod galwadau dyfarnwyr llinell yn disodli un ffynhonnell wallus ag un arall, gan gamarwain y gwylwyr.
Dywedodd yr Athro Harry Collins o’r Ysgol Gwyddorau Cymdeithasol ac un o gyd-awduron Bad Call: “Gall technolegau helpu dyfarnwyr i ddod i’r penderfyniad cywir a sicrhau cyfiawnder i bob cefnogwr os cânt eu defnyddio’n effeithiol: gêm dda lle mae’r tîm gorau’n ennill. O’u defnyddio’n wael, fodd bynnag, mae technolegau gwneud penderfyniadau yn datgan tebygolrwydd fel cywirdeb digamsyniol, gan arwain at fytholeg o berffeithrwydd…”
“Mae criced, ar y llaw arall, wedi bod yn arloesol yn ei ddefnydd o dechnoleg i helpu dyfarnwyr, ac yn y ffordd soffistigedig y mae’n defnyddio trac-amcangyfrifwyr drwy gydnabod bod yna ffin o ansicrwydd. Mae hyn yn golygu bod criced yn defnyddio technoleg i gefnogi dyfarnwyr yn hytrach na’u tanseilio.”
Ychwanegodd Dr Robert Evans o’r Ysgol Gwyddorau Cymdeithasol ac un o gyd-awduron y llyfr: “Yr hyn sy’n bwysig mewn chwaraeon yw’r hyn sydd i’w weld gan y llygad dynol, nid amcanestyniadau cyfrifiadurol o leoliad y bêl - derbyn yr hyn y mae’r cefnogwyr yn ei weld a’r hyn y mae swyddog y gêm yn ei weld.”
Cyhoeddir Bad Call gan Harry Collins, Robert Evans a Christopher Higgins gan MIT Press.