Ysgol yn ennill gwobr y Brifysgol
22 Tachwedd 2016
Mae'r Ysgol Newyddiaduraeth, y Cyfryngau ac Astudiaethau Diwylliannol wedi ennill gwobr 'Ysgol y Flwyddyn' yn Seremoni Wobrwyo Dathlu Rhagoriaeth y Brifysgol 2016. Cynhelir y seremoni hon yn flynyddol.
Cafodd enillwyr y gwobrau eu cydnabod mewn seremoni arbennig am eu hymdrechion eithriadol a’u parodrwydd a'u gallu i fynd yr ail filltir dros y Brifysgol.
Roedd llwyddiant yr Ysgol Newyddiaduraeth, y Cyfryngau ac Astudiaethau Diwylliannol (JOMEC) yn cydnabod ei statws fel un o ganolfannau ymchwil mwyaf blaenllaw ym maes newyddiaduraeth a'r cyfryngau. Dyma rai o’u llwyddiannau dros y blynyddoedd diwethaf:
- 2il yn y DU yn asesiad Llywodraeth y DU o ansawdd ymchwil (REF 2014)
- Aseswyd bod 89% o'i gwaith ymchwil o'r ‘radd flaenaf’ neu'n ‘rhagorol ar lefel ryngwladol’ (REF 2014)
- Sgôr o 100% ar gyfer effaith ymchwil (REF 2014)
- Sgôr bodlonrwydd o 98% (Arolwg Cenedlaethol y Myfyrwyr 2015)
- Ar y brig yn nhablau cynghrair Newyddiaduriaeth a Chysylltiadau Cyhoeddus ddwy flynedd yn olynol (Guardian 2016 a 2017)
Dywedodd yr Athro Stuart Allan, Pennaeth yr Ysgol: "Rydw i, fy nghydweithwyr a'n myfyrwyr, yn hynod o falch ein bod wedi cael y gydnabyddiaeth hon gan ein cyfoedion yn y Brifysgol.
"Mewn cyfnod lle rydym yn ailystyried llawer o’r hyn roedden ni’n arfer ei gymryd yn ganiataol – yn dilyn canlyniad diweddar refferendwm y DU, buddugoliaeth Trump yn etholiad yr Unol Daleithiau, a phan ddewisodd Geiriadur Prifysgol Rhydychen ‘post-truth’ fel gair y flwyddyn yn 2016 – mae'n her enfawr i ni adfywio a gwella ansawdd newyddiaduraeth ac addysg cyfryngau.
"Rydym yn barod i wynebu'r her yn JOMEC, ac mae bod yn rhan o Brifysgol mor nodedig â Phrifysgol Caerdydd, lle mae cynifer o Ysgolion ysbrydoledig yn ymrwymo i ragoriaeth, yn cyfrannu at ein parodrwydd i wneud hyn.
Yn y llun uchod, o'r chwith: Dr Caitriona Noonan (Darlithydd yn yr Ysgol), Jo Marshall-Stevens (Rheolwr yr Ysgol), Jayne Dowden (Prif Swyddog Gweithredu) a’r Athro Stuart Allan (Pennaeth yr Ysgol).