Prifysgolion Byd-eang Gorau US News
21 Tachwedd 2016
Yn ôl rhestr bwysig o brifysgolion a luniwyd, mae Prifysgol Caerdydd wedi'i rhestru ymhlith 150 o brifysgolion gorau'r byd ac ymhlith yr 20 orau yn y DU.
Mae rhestr Prifysgolion Byd-eang Gorau US News a gyhoeddwyd y mis hwn yn seiliedig ar ymchwil academaidd ac enw da'r prifysgolion.
Dyma'r drydydd flwyddyn i'r rhestr hon gael ei pharatoi, ac ynddi mae Prifysgol Caerdydd yn safle 149 yn y byd ac yn 18fed ymysg prifysgolion y DU.
"Mae Prifysgol Caerdydd yn gymuned ryngwladol sy'n gwerthfawrogi myfyrwyr a staff o bob cwr o'r byd sy'n dod yma i astudio a gweithio," yn ôl yr Athro Nora de Leeuw, Dirprwy Is-Ganghellor, Rhyngwladol ac Ewrop.
“Dyna pam fy mod mor falch o'n gweld mewn safle mor uchel ar Restr Prifysgolion Byd-eang Gorau US News eleni.
"Mae gan y Brifysgol hanes hir a balch o groesawu myfyrwyr o'r Unol Daleithiau, ac mae dros 100 o fyfyrwyr Americanaidd yn astudio gyda ni yn y Brifysgol.
"Fel Prifysgol, ein huchelgais yw ennill ein plwyf ymysg y 100 uchaf yn y byd a'r 20 uchaf yn y DU, felly mae'n braf gweld cynnydd."
Mae rhestr gyffredinol y Prifysgolion Byd-eang Gorau yn cynnwys y 1,000 sefydliad gorau ar draws 65 o wledydd.
Mae'r rhestr yn dangos hefyd bod gan Gaerdydd bum pwnc sydd ymhlith y 100 uchaf yn y byd.
Y pynciau hyn yw Imiwnoleg; Bioleg Foleciwlaidd a Geneteg; Seiciatreg/Seicoleg; Gwyddorau Cymdeithasol ac Iechyd y Cyhoedd; a Gwyddoniaeth Gofod.
Mae llwyddiant y Brifysgol yn y rhestr ddiweddaraf yn cyd-fynd â safbwyntiau'r myfyrwyr Americanaidd sy'n astudio yma.
Meddai Matt Waskiewicz, sy'n astudio MSc mewn Datblygiad Trefol a Rhanbarthol yn yr Ysgol Daearyddiaeth a Chynllunio ac mae'n Gynfyfyriwr o Athrofa Haf Fulbright Cymru:“Rydw i'n falch o glywed bod Caerdydd yn cael ei chydnabod am ei rhagoriaeth fyd-eang amlwg.
"Wedi dweud hynny, nid yw'n syndod gan fod Caerdydd yn brifysgol o'r radd flaenaf ac mae ganddi rai o'r staff gorau yn y byd. Mae hyn wedi bod yn gwbl glir i mi ers fy mhrofiad cyntaf yn y Brifysgol yn 2013 pan fues i'n mynychu Athrofa Haf Fulbright Cymru Balch.
"Dyna pryd y syrthiais i mewn cariad â'r ddinas a'r Brifysgol am ei diwylliant bywiog, ei hanes cyfoethog, yr holl leoedd gyrdd, ac fe benderfynais bryd hynny yr hoffwn astudio fy nghwrs Meistr yma.
"Mae lleoliad y Brifysgol yng nghanol Caerdydd yn ei gwneud yn lleoliad unigryw ar gyfer denu staff sy'n mynd i'r afael â'r un heriau yr ydyn ni'n eu hastudio yn y dosbarth, ac rydyn ni'n gallu rhoi'r hyn a ddysgwn ar waith yn y byd go iawn."