Caerdydd ymhlith y gorau o ran cyflogadwyedd ei graddedigion
21 Tachwedd 2016
Yn ôl arolwg newydd o recriwtwyr y DU, mae Prifysgol Caerdydd ymhlith y gorau yn y DU o ran paratoi ei graddedigion ar gyfer y gweithle.
Cafodd ‘Rhestr Fyd-eang Cyflogadwyedd y Prifysgolion 2016' ei chyhoeddi'n arbennig gan Times Higher Education, ac mae'r Brifysgol yn gydradd 14eg yn y DU am gynhyrchu graddedigion sy'n barod ar gyfer byd gwaith.
Ar sail y maen prawf hwn, Prifysgol Caerdydd oedd y gorau yng Nghymru, ac roedd ymhlith y goreuon yn y DU y tu allan i Lundain.
Yn yr arolwg hwn, oedd yn cynnwys holl brifysgolion y DU, gofynnwyd i recriwtwyr y DU oedd â phrofiad o gyflogi neu weithio gyda graddedigion i bleidleisio dros y prifysgolion sy'n cynhyrchu'r graddedigion gorau o ran eu cyflogadwyedd.
Mae arolwg y DU yn rhan o 'Restr Fyd-eang Cyflogadwyedd y Prifysgolion 2016' gyffredinol oedd yn rhestru sefydliadau addysg uwch ledled y byd ar sail arolwg o recriwtwyr byd-eang a rheolwyr-gyfarwyddwyr cwmnïau rhyngwladol.
Roedd y DU yn drydydd yn y byd ar gyfer cyflogadwyedd graddedigion, y tu ôl i'r Almaen oedd yn ail a'r Unol Daleithiau oedd yn gyntaf.
Dywedodd yr Athro Amanda Coffey, Dirprwy Is-Ganghellor, Profiad y Myfyrwyr a Safonau Academaidd: "Rwyf wrth fy modd bod Prifysgol Caerdydd wedi'i dewis ymhlith y gorau yn y DU am gyflogadwyedd ei graddedigion. Mae'n braf iawn gweld bod ein myfyrwyr yn uchel eu parch ymysg cyflogwyr. Rydym yn ymfalchïo'n fawr mewn paratoi ein graddedigion ar gyfer bywyd y tu hwnt i'r brifysgol i wneud yn siŵr eu bod yn elwa ar gyfleoedd i ddatblygu sgiliau a rhinweddau sy'n eu gwneud yn barod ar gyfer byd gwaith."
Wrth sôn am safle'r Brifysgol ar y rhestr, dywedodd Scarlett Seager, Rheolwr Recriwtio Myfyrwyr Gorllewin Lloegr a Chymru yn PwC: “Er bod academyddion yn bwysig i ni, mae eich sgiliau cyflogadwyedd yr un mor hanfodol. Dyna pam mae hyblygrwydd, chwilfrydedd, arweinyddiaeth ac ymwybyddiaeth fasnachol ymhlith y cymwyseddau craidd yr ydym yn chwilio amdanynt yn ein darpar staff.”