Cyflwyno Cymru i'r Byd
18 Tachwedd 2016
Heddiw, mae Prifysgol Caerdydd wedi llofnodi cytundeb partneriaeth gyda Phrifysgol Xiamen i gynyddu ymchwil ar y cyd, rhannu arferion gorau ym myd addysg, a chreu mwy o gyfleoedd i gyfnewid myfyrwyr a staff.
Dywedodd yr Athro Colin Riordan, Is-Ganghellor Prifysgol Caerdydd: “Rydym yn hynod falch o ymestyn ein perthynas hirsefydlog â Xiamen. Mae partneriaethau rhyngwladol fel hyn yn hanfodol i’n gwaith byd-eang ac enw da ein hymchwil, ac maent yn cyflwyno Cymru i'r byd.”
Llofnodwyd y cytundeb gan Arlywydd Zhu o Brifysgol Xiamen a’r Athro Colin Riordan, Is-Ganghellor Prifysgol Caerdydd, gyda Phrif Weinidog Cymru yn bresennol.
Meddai Arlywydd Zhu o Brifysgol Xiamen: “Mae ein cytundeb newydd gyda Phrifysgol Caerdydd yn seiliedig ar berthynas hisefydlog a chynhyrchiol, ac rydym yn hynod falch o’i chryfhau ymhellach..."
Caerdydd oedd y ddinas gyntaf yn y DU i efeillio â dinas yn Tsieina pan ddaeth yn bartner â Xiamen dros dri deg mlynedd yn ôl. Ers hynny, mae prifysgolion Caerdydd a Xiamen wedi cydweithio'n agos mewn nifer o feysydd sydd o ddiddordeb cyffredin, gan gynnwys meysydd o gryfder yng Nghaerdydd fel catalysis.
Dywedodd Carwyn Jones, Prif Weinidog Cymru: "Rydw i'n croesawu cytundeb heddiw rhwng Prifysgolion Caerdydd a Xiamen a'r cyfle i ddatgan yn glir unwaith eto bod croeso bob amser i fyfyrwyr tramor yng Nghymru..."
"Rhaid i ni barhau i gydweithio fel hyn. Byddwn yn gweithio gyda phrifysgolion i wneud yn siŵr bod y pontydd hyn yn cael eu cynnal a'u cryfhau yn y blynyddoedd i ddod."
Dywedodd yr Athro Riordan: “Mae’r cydweithio rydyn ni’n ei wneud gyda phartneriaid academaidd ar draws y byd yn cynhyrchu ymchwil sy'n gallu cael effaith go iawn a mynd i’r afael â heriau byd-eang. Mae ein perthynas â Xiamen eisoes yn helpu i greu dinasoedd mwy cynaliadwy gan fod yr Ysgol Daearyddiaeth a Chynllunio yn gweithio gyda Phrifysgol Xiamen ac Athrofa Cynllunio a Dylunio Xiamen i sefydlu Canolfan Ymchwil ar gyfer Dinasoedd Trigiadwy ac Ecolegol. Bydd ymchwilwyr yn y Ganolfan yn cydweithio i edrych ar sut y gallwn wella ansawdd bywyd ac ecoleg dinasoedd yn Tsieina ac yn y DU yng nghyd-destun twf trefol."
Roedd creu Sefydliad Confucius yng Nghaerdydd yn 2008 ymhlith manteision blaenorol y berthynas gynyddol rhwng Caerdydd a Xiamen. Mae’r Sefydliad yn darparu rhaglen estynedig o addysg iaith Tsieinëeg, yn hyrwyddo diwylliant Tsieineaidd yng Nghymru, ac yn cefnogi cydweithio rhwng Cymru a Tsieina. Yn ogystal, mae gan Ysgol Busnes Caerdydd ac Ysgol Rheoli ac Economeg Prifysgol Xiamen gytundeb ffurfiol sy'n goruchwylio myfyrwyr PhD ar y cyd. Maent hefyd wedi cyd-drefnu dau symposiwm a gynhaliwyd yn Xiamen yn 2015 a Chaerdydd yn 2016.
Mae manteision y cytundeb newydd yn cynnwys datblygu hyfforddiant ar y cyd ar gyfer ymchwilwyr drwy gyd-oruchwylio myfyrwyr doethurol, yn ogystal â chronfa ar y cyd i roi £1.2m o arian sbarduno ar gyfer y prosiectau ymchwil cydweithredol sy'n gallu denu arian allanol a chreu cysylltiadau masnach newydd i Gymru.
Mae gan y Brifysgol berthynas hirsefydlog â Tsieina, gyda 49 o gysylltiadau academaidd ffurfiol rhyngddynt yn ogystal â chytundebau partneriaeth strategol gyda phrifysgolion ar draws y wlad ar gyfer ymchwil ar y cyd a chyfnewid myfyrwyr.
I ddathlu'r bartneriaeth newydd gyda Phrifysgol Xiamen, perfformiodd côr Siambr Prifysgol Caerdydd a Grŵp y Celfyddydau Prifysgol Xiamen gyngerdd yn Theatr Reardon Smith, Caerdydd, ar 17 Tachwedd 2016. Yn y digwyddiad 'Cipolwg ar Tsieina' cyflwynodd grŵp Celfyddydau Prifysgol Xiamen ddawns draddodiadol o Tsieina, gan gynnwys dawns, canu a cherddoriaeth offerynnol filwrol. Agorodd Côr Siambr Prifysgol Caerdydd y gyngerdd gyda chaneuon a gyfansoddwyd gan Hubert Parry.