Noson Gyrfaoedd gyda'r Gymraeg
18 Tachwedd 2016
Hoffech chi ddysgu mwy am gyfleoedd i ddefnyddio'ch Cymraeg yn y byd gwaith? Cewch gyfle i wneud hynny mewn noson 'Gyrfaoedd gyda'r Gymraeg', nos Lun, 28 Tachwedd, yn yr Hen Lyfrgell, Caerdydd, rhwng 6-8 y.h.
Dyma noson a drefnwyd gan Ysgol y Gymraeg, Prifysgol Caerdydd a'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol. Mae'n gyfle i chi sgwrsio â graddedigion o'r Ysgol a dysgu mwy am lwybr eu gyrfa a manteision ennill gradd yn y Gymraeg. Mae'r gwesteion yn cynnwys:
- Dafydd Wyn Rees (Heno, Tinopolis)
- Ruth Thomas (Uwch Rheolwr Cyswllt ag Ysgolion a Cholegau Prifysgol Caerdydd)
- Cerith Rhys Jones (WWF Cymru)
- Jessica Rumble (NUS Cymru, Wise Wales)
- Eleri James (Swyddfa Comisiynydd y Gymraeg).
Gallwch archebu eich tocynnau yn rhad ac am ddim ar-lein. Am ragor o fanylion, cysylltwch â Cadi Thomas, Ysgol y Gymraeg.