Gwleidydd 'dychmygol' ymhlith un o'r ASEau mwyaf adnabyddus yng Nghymru
17 Tachwedd 2016

Yn ôl pob golwg, unigolyn cwbl ddychmygol o'r enw 'Elwyn Davies' yw'r ail unigolyn mwyaf adnabyddus ymhlith cynrychiolwyr Cymru yn Senedd Ewrop.
Y canlyniad anhygoel hwn yw un o'r canfyddiadau a ddaeth i'r amlwg yn Astudiaeth Etholiad Cymru 2016. Mae hon yn astudiaeth bwysig sy'n edrych ar bleidleisio, agweddau gwleidyddol a gwybodaeth wleidyddol. Fe'i harweinir gan ymchwilwyr yng Nghanolfan Llywodraethiant Cymru ym Mhrifysgol Caerdydd.
Mewn arolwg a gynhaliwyd gan Astudiaeth Etholiad Cymru yn gynharach eleni, edrychwyd ar ba mor dda y mae pleidleiswyr yn adnabod eu cynrychiolwyr etholedig. Gofynnwyd iddynt:
"Mae gan Gymru bedwar Aelod yn Senedd Ewrop. Pa rai o'r canlynol, os o gwbl, sydd ymhlith pedwar cynrychiolydd Cymru yn Senedd Ewrop?"
Dim ond 30 eiliad oedd gan yr ymatebwyr i roi ateb er mwyn eu hatal rhag chwilio ar y we.
Dyma'r dewisiadau a gyflwynwyd iddynt:
- ENW UN O'R ASE GO IAWN
- ENW AIL ASE GO IAWN
- David Sherwood
- Elwyn Davies
- Lynn Goodwin
- Jenny Green
Nid yr un aelodau go iawn a gafodd eu cynnwys ym mhob arolwg, ac roedd trefn yr enwau a restrwyd yn amrywio hefyd.
Mae'r tabl canlynol yn dangos pa ganran o sampl yr arolwg a welodd enw a'i ddewis gan eu bod yn credu ei fod yn un o ASE Cymru. Y pedwar enw cyntaf yw enwau ein ASEau go iawn, ac mae'r pedwar dilynol yn enwau ffug a gafodd eu cynnwys yn yr arolwg:
Adnabod enwau ASEau unigol/enwau ffug
Enw | % a wnaeth ei ddewis |
Derek Vaughan | 9% |
Nathan Gill | 16% |
Kay Swinburne | 6% |
Jill Evans | 11% |
David Sherwood | 5% |
Elwyn Davies | 12% |
Lynn Goodwin | 5% |
Jenny Green | 5% |
Dyma beth oedd gan yr Athro Roger Scully, Cyfarwyddwr Gweithredol Canolfan Llywodraethiant Cymru, a Phrif Ymchwilydd Astudiaeth Etholiad Cymru 2016, i'w ddweud am y canfyddiadau: "Mae'n anodd gwybod beth i'w ddweud am rai o'r canlyniadau hyn. Nid yw'n syndod mai Nathan Gill ddaeth i'r brig, o ystyried y proffil uwch a gafodd yn etholiad y Cynulliad.
"Ond cafodd y ffigwr chwedlonol yng ngwleidyddiaeth Cymru, 'Elwyn Davies', ei adnabod gan gyfran uwch o ymatebwyr yr arolwg nag unrhyw ASE arall o Gymru. Go brin fod angen imi ymhelaethu ar gyfraniad Elwyn at fywyd gwleidyddol y genedl. Fe wnaeth llai o bobl ddewis Jill Evans hyd yn oed, oedd wedi bod yn ASE dros Gymru ers bron 17 flynedd pan gynhaliwyd yr arolwg, o'i chymharu â Mr Davies oedd yn rhyfeddol o boblogaidd. Mae'r darlun hyd yn oed yn waeth i Kay Swinburne, ASE Ceidwadol dros Gymru ers 2009: ychydig iawn yn rhagor a ddewisodd ei henw hi o'i chymharu ag unrhyw un o'r enwau ffug a restrwyd.
"Fe wnes i dreuliais gryn amser ar ddechrau fy ngyrfa academaidd yn astudio Senedd Ewrop: un o'r pethau a wnaeth argraff arna i yn fy ymchwil oedd y ffaith fod y rhan fwyaf o Aelodau Senedd Ewrop yn gweithio'n galed iawn. Ac eto, ychydig iawn o effaith y mae ymdrechion pedwar cynrychiolydd Cymru yn siambr etholedig yr UE wedi'i chael ar y cyhoedd yn ôl pob golwg. Prin bod un o bob pump yn ein sampl gyfan yn gallu enwi ASE yn gywir ymhlith yr enwau a gyflwynwyd iddyn nhw. Mae hefyd yn bosibl mai dyfalu wnaeth y rhai a roddodd atebion cywir gan fod bron cynifer o ymatebwyr wedi dewis enwau ffug.

"Wrth gwrs, mae'n debygol iawn y byddwn yn colli ein ASEau pan fydd y DU yn gadael yr Undeb Ewropeaidd. Ar sail y canlyniadau hyn, fodd bynnag, mae'n deg dweud na fydd y cyhoedd yng Nghymru yn sylwi yn ôl pob tebyg."
Mae mwy o wybodaeth ar gael yn y blog Etholiadau yng Nghymru yma.