Myfyrwyr a staff yn cyflwyno syniadau mawr i gael arian
16 Tachwedd 2016
Bydd myfyrwyr a staff â syniadau mawr sy'n gallu trawsnewid bywydau'n gwneud cyflwyniadau er mwyn ceisio cael arian yng Ngwobrau Da Vinci Prifysgol Caerdydd.
Bydd yr enillwyr yn cael hyd at £3,000 yn y fan a'r lle, er mwyn helpu i droi eu syniadau'n brosiectau economaidd a chymdeithasol.
Mae'r Gwobrau – a gynhelir ar 23 Tachwedd – yn arddangos gallu pobl ifanc o Brifysgol Caerdydd i arloesi, ac yn helpu i feithrin cysylltiadau rhwng y Brifysgol a chefnogwyr o'r sector preifat.
Y llynedd, gwyliodd dros 100 o westeion gyflwyniadau tair munud gan 20 o gyflwynwyr, a oedd yn ymdrin ag amrywiaeth o bynciau, gan gynnwys "Gwella Diogelwch Meysydd Awyr" neu "Defnyddio Peirianneg i Achub Babanod". Mae un cynfyfyriwr eisoes yn berchen ar fusnes llwyddiannus sy'n datblygu tyrbinau gwynt.
Mae llawer o'r cyflwynwyr yn dod o dimau ymchwil amlddisgyblaethol sy'n gweithio ar draws Ysgolion y Brifysgol, ac yn cynnwys staff, a myfyrwyr ôl-raddedig ac israddedig.
Mae'r digwyddiad, sy'n agored i'r cyhoedd, wedi'i ddylunio er mwyn helpu pobl â syniadau newydd i ddod o hyd i gyllid sbarduno, a hynny â chyn lleied o drafferth â phosibl.
Dywedodd yr Athro David Barrow, trefnydd Gwobrau Da Vinci: "Roedd y digwyddiad llynedd yn llwyddiant mawr. Daeth cyfran fawr o'r enillwyr o blith ein myfyrwyr ôl-raddedig ac israddedig, ac roedd llawer ohonynt yn astudio Peirianneg, Meddygaeth a'r Gwyddorau Biolegol. Eleni, rydw i'n gobeithio y bydd amrywiaeth fwy eang o Ysgolion o fewn y Brifysgol yn cymryd rhan."
Cynhelir Gwobrau Arloesedd ac Effaith Da Vinci 2016 am 17.30 ddydd Mercher 23 Tachwedd yng Nghlwb KuKu, Gwesty Park Plaza, Heol y Brodyr Llwydion, Caerdydd.
Dylai myfyrwyr sydd am wneud cyflwyniad ebostio’r Athro David Barrow i gofrestru eu syniad cyn y digwyddiad.
I gasglu neu archebu tocyn, cysylltwch ag Aderyn Reid, Ystafell S2.04, Ysgol Peirianneg Prifysgol Caerdydd, Adeiladau'r Frenhines, The Parade, Caerdydd. CF24 3AA. Ffôn: +44 (0)29 2087 4930.