Myfyrwyr yn sbïo tu ôl i’r llenni gyda BBC Radio Cymru
14 Tachwedd 2016
Mae myfyrwyr cydanrhydedd BA Cymraeg a Newyddiaduraeth wedi mwynhau cyfle i ddarlledu ar y radio wrth ymweld â BBC Radio Cymru.
Treuliodd myfyrwyr blwyddyn dau a thair wythnos yn gweithio gyda chynhyrchwyr, golygyddion a chyflwynwyr cyn mynd ati i greu pecynnau radio eu hunain a darlledwyd ar yr awyr.
Dywed Sian Morgan Lloyd, sydd yn arwain modiwl Yr Ystafell Newyddion, a darpariaeth Gymraeg yn yr Ysgol Newyddiaduraeth, y Cyfryngau ac Astudiaethau Diwylliannol: “Mae’r perthynas rhwng yr Ysgol a diwydiant yn oll bwysig i sicrhau profiadau gwerth chweil fel hwn.
“Mae’r myfyrwyr yn cael gweithio ochr yn ochr â newyddiadurwyr proffesiynol a phrofiadau. Yn y broses maent yn ennill mewnweledigaethau gwerthfawr i ofynion ymarferol newyddiaduraeth ddigidol fodern.
“Roedd yr wythnos yn esiampl wych o brofiad gwaith heriol, perthnasol a llwyddiannus.”
Wrth benderfyni ar bwnc ar gyfer ei phecyn radio, dewisodd Abbie Bolitho topig a oedd yn agos at ei Chalon fel dysgwr sef dysgu Cymraeg fel ail iaith.
Dywedodd Abbie: “Roedd hi’n dda i ddysgu sut i ddefnyddio’r dechnoleg ac i wneud penderfyniadau golygyddol. Y peth orau oedd clywed y pecyn ar y radio a derbyn adborth positif ar fy ngwaith.”
Roedd Garry Owen, cyflwynydd gyda BBC Radio Cymru, yn awyddus i ganmol proffesiynoldeb y myfyrwyr: “Pleser oedd cael gwylio’r myfyrwyr yn datblygu eu sgiliau wrth baratoi eu hadroddiadau. Fe wnaethon nhw ffeindio straeon gwreiddiol ac roeddent yn broffesiynol ac yn aeddfed yn eu gwaith.”
Mae’r BA Cymraeg a Newyddiaduraeth yn nodedig gan ei fod yn cynnig cyfle i ddilyn cwrs gradd sydd yn datblygu sgiliau sydd yn berthnasol i’r byd academaidd a’r byd gwaith.