Ail-greu'r map
15 Tachwedd 2016
![Sepia map of South Africa with pin marker](https://cardiff.imgix.net/__data/assets/image/0007/516463/Sepia-map-of-South-Africa-with-pin-marker.jpg?w=570&h=321&fit=crop&q=60&auto=format)
Caiff prosiect ymchwil rhyngwladol newydd yn datgelu cyfnodau arwyddocaol yn hanes De Affrica a'r Iseldiroedd a'i effaith ar fasnach yn rhyngwladol ei gynnal gan ymchwilwyr yng Nghaerdydd a De Affrica.
Nod yr Hanesydd Modern Cynnar Dr Mark Williams o Ysgol Hanes, Archaeoleg a Chrefydd Prifysgol Caerdydd a'r Athro Daearyddiaeth Ffisegol Stefan Grab o Brifysgol Witswatersrand yw digido a chyfieithu cofrestri dyddiol y Dutch East India Company yn y Penrhyn Gobaith Da dros 44 o flynyddoedd yn cwmpasu twf, anterth a dirywiad y cwmni masnachol rhyngwladol mawr.
Mae'r cofnodion cyflawn yn cwmpasu traean o hanes y cwmni, ac fe'u cydnabyddir yn eang fel un o ffynonellau mwyaf gwerthfawr y byd ar gyfer astudio hanes byd-eang a rhanbarthol y 17eg a'r 18fed ganrif.
![Title page of old document with serif font](https://cardiff.imgix.net/__data/assets/image/0004/516478/Dag-Register.jpg?w=575&ar=16:9)
Gan ddatgelu darlun dyddiol o wleidyddiaeth, diplomatiaeth, diet, anheddiad, masnach ac eithafion tywydd, caiff cofrestri'r Vereenigde Oost-Indische Compagnie (neu VOC) eu trawsgrifio cyn cael eu cyfieithu i'r Saesneg o'r Iseldireg a'u digido i alluogi ysgolheigion ledled y byd i'w cyrchu. Mae prosiect VOC daghregisters yn ychwanegu at waith sylweddol yr Ymddiriedolaeth Olrhain Hanes ar y cofnodion, sydd ers 2003 wedi'u dynodi'n rhan o raglen Cof y Byd UNESCO.
Mae deunaw mlynedd ar gael ar hyn o bryd yn yr Iseldireg gwreiddiol ac mewn cyfieithiad Saesneg, diolch i'r Ymddiriedolaeth Olrhain Hanes. Mae'r cofnodion cyflawn yn allweddol ar gyfer ateb nifer o gwestiynau am y cyfnod hwn o ehangu mawr mewn masnach ryngwladol, fydd yn galluogi mwy o astudiaethau nag erioed ar draws amrywiol ddisgyblaethau ysgolheigaidd.
Mae'r prosiect newydd yn canolbwyntio ar flynyddoedd allweddol mewn tri chyfnod arwyddocaol yn hanes y cwmni:
Twf ac Anterth 1608 – 1707
Cyfnod o ffynnu drwy uno Prydain a'r Iseldiroedd yn 1688 gyda choroni William III [Willem III o'r Iseldiroedd]
Bwrw Cysgod Graddol 1713 - 1730
O'r cyfnod o flodeuo tan y diwedd, yn ystod 'Oes Aur Morladrata' a dyrchafiad y cystadleuydd allweddol, yr English East India Company (EIC)
Dirywiad 1780 - 1704
Cyfnod sylweddol o newid, pan gafodd digwyddiadau byd-eang fel y Chwyldro Ffrengig effaith fawr ar wleidyddiaeth a masnach
![](https://cardiff.imgix.net/__data/assets/image/0006/2421564/73091-1595589205343.jpeg?w=100&h=100&auto=format&crop=faces&fit=crop)
"Mae cofnodion y VOC yn y Penrhyn yn unigryw nid yn unig oherwydd yr olwg maen nhw'n ei chynnig ar hanes De Affrica dros y canrifoedd hyn, ond hefyd y lle oedd i'r Penrhyn mewn byd oedd yn globaleiddio..."
Mae daghregisters y VOC y cynnwys cofnod fwy neu lai di-dor o bresenoldeb y Cwmni yn yr hyn oedd yn ganolbwynt cynyddol bwysig o weithgarwch trawswladol," meddai Dr Williams.
Dywedodd yr Athro Grab, sy’n gweithio yn Johannesburg ac sy'n arbenigwr ar Newid Hinsawdd Hanesyddol: "Gan ddefnyddio fy arbenigedd mewn newid hinsawdd, byddaf yn archwilio patrymau tywydd y Penrhyn yn y 17eg a'r 18fed ganrif ac yn canfod y graddau y gallent fod yn wahanol i'r hyn a geir heddiw.
"Mae gennyf ddiddordeb arbennig i weld sut y bu ymsefydlwyr cynnar yn ymdopi ac addasu i eithafion tywydd a hinsawdd y gorffennol drwy amser. Mae digido'r cofnodion yn sicrhau y cânt eu cadw am byth, gan arbed eu cynnwys rhag difrod amser a dinistr posibl drwy ddigwyddiadau annisgwyl fel tân."
![Old document with serif script](https://cardiff.imgix.net/__data/assets/image/0009/516483/Dag-Register-2.jpg?w=575&ar=16:9)
Gan weithio gydag archifwyr yn archifau Cape Town a Den Haag, bydd y cofnodion ar gael yn gyhoeddus i genedlaethau'r dyfodol ar-lein ac fel adnoddau addysgol ar ffurf PDFs a CD.
Gan ddechrau'r hydref hwn, bydd y prosiect werth £44,000 yn ceisio cwblhau ei gam cyntaf erbyn diwedd 2018, gan anelu at ddatblygu'r prosiect i gwmpasu 150 mlynedd o bresenoldeb yr Iseldiroedd yn neheudir Affrica yn llawn (1652 – 1795). Mae prosiect VOC daghregisters yn bosibl drwy gyllid gan Gronfa Newton yr Academi Brydeinig a Phrifysgol Witwatersrand.