Y Dirprwy Is-Ganghellor yn cipio gwobr arloesedd
14 Tachwedd 2016
Mae gwaith yr Athro Hywel Thomas i hyrwyddo cydweithio rhwng Prifysgol Caerdydd â busnes a diwydiant wedi cael cydnabyddiaeth yng Ngwobrau Partneriaethau Busnes ac Addysg Business Insider 2016.
Derbyniodd yr Athro Thomas, y Dirprwy Is-Ganghellor Ymchwil, Arloesedd ac Ymgysylltu, y Wobr am Effaith Unigol mewn cinio mawreddog yn y ddinas.
Yn ogystal â hyrwyddo cydweithio â busnesau llai, cafodd yr Athro Thomas ei gydnabod hefyd am ei waith gyda chwmnïau mawr i greu effaith economaidd. Mae'r Brifysgol yn gweithio mewn partneriaeth ag arbenigwyr Lled-ddargludyddion Cyfansawdd IQE, sydd â'u pencadlys yng Nghaerdydd, i ddatblygu canolfan ar gyfer y gwaith hwn yn ne Cymru.
"Rydw i'n falch iawn o dderbyn y wobr hon, ond y tîm gwych sydd gennym ym Mhrifysgol Caerdydd sy'n haeddu'r clod. Maen nhw'n gweithio'n ddiflino i ddatblygu a hyrwyddo ein cysylltiadau â busnes, diwydiant, y sector cyhoeddus a'r trydydd sector," meddai'r Athro Thomas.
"Ein nod yw creu ffyniant economaidd a chymdeithasol drwy droi syniadau a datblygiadau arloesol yn gynhyrchion, technolegau, cwmnïau deillio a busnesau newydd sy'n cael eu harwain gan ymchwil arloesol, trosglwyddo technoleg, datblygu busnes a menter myfyrwyr. System Arloesedd Caerdydd yw'r enw ar y weledigaeth hon; rhoi ein syniadau ar waith er mwyn gweddnewid Cymru a'r byd ehangach."
Dyma'r drydedd flwyddyn i Wobrau Partneriaethau Busnes ac Addysg Insider's Business gael eu cynnal. Maent yn dathlu'r ffyrdd y mae cwmnïau, prifysgolion a cholegau yn cydweithio i gynhyrchu canlyniadau anhygoel.
Wrth ganmol y rhai oedd wedi cyrraedd y rownd derfynol, dywedodd golygydd Wales Business Insider, Douglas Friedli, bod safon y cystadleuwyr eleni yn uwch nag erioed.