Ewch i’r prif gynnwys

Interniaethau yn y Brifysgol yn torri tir newydd

11 Tachwedd 2016

Cardiff Uni Project Search Interns

Mae rhaglen ryngwladol o bwys sy'n cynnig swyddi a chyfleoedd i ddysgu i bobl ifanc ag anableddau, ar waith yng Nghymru am y tro cyntaf.

Mae deuddeg o bobl ifanc sydd â chyflyrau fel anhwylder ar y sbectrwm awtistiaeth ac anableddau dysgu wedi cael interniaethau ym Mhrifysgol Caerdydd yn rhan o Project SEARCH a ddechreuodd yn America 20 mlynedd yn ôl.

Bydd y myfyrwyr ifanc o Goleg Caerdydd a'r Fro yn cwblhau tri interniaeth 10 wythnos o hyd mewn adrannau yn y Brifysgol, gyda chymorth Coleg Caerdydd a'r Fro ac Asiantaeth Cyflogaeth gyda Chefnogaeth ELITE (ELITE SEA).

Mae Prifysgol Caerdydd ymhlith un o dair prifysgol yn unig yn y DU sy'n cymryd rhan yn Project SEARCH.

Ariennir y cynllun yng Nghymru gan brosiect Ymgysylltu Er Mwyn Newid ehangach sy'n gweithio gyda chyflogwyr i helpu pobl ifanc ag anableddau dysgu a/neu awtistiaeth i ddatblygu sgiliau cyflogaeth drwy leoliadau gwaith a chael cefnogaeth i gael gwaith cyflogedig.

Cafodd Anabledd Dysgu Cymru £10m gan y Gronfa Loteri Fawr - un o'r grantiau loteri mwyaf yng Nghymru - i arwain consortiwm o sefydliadau i Ymgysylltu Er Mwyn Newid. Cafodd grant Ar y Blaen 2 ei ddatblygu mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru er mwyn bodloni blaenoriaethau ar gyfer cefnogi plant a phobl ifanc.

Mae Prifysgol Caerdydd yn ymchwilio i lwyddiant Project SEARCH drwy ei dîm ymchwil yn y Ganolfan Iechyd Meddwl Genedlaethol. Mae hyn yn rhan o'i werthusiad o'r prosiect Ymgysylltu Er Mwyn Newid cyfan.

Dechreuodd Project SEARCH yng Nghanolfan Feddygol Ysbyty Plant Cincinnati pan benderfynodd ei chyfarwyddwr, Erin Riehle, ei bod am hyfforddi pobl ag anableddau i wneud rhai o'r swyddi lefel mynediad a throsiant uchel yn ei hadran.

Erbyn hyn, mae'n ffenomen ryngwladol sydd ar waith mewn cannoedd o leoliadau yn UDA, Canada, Lloegr, yr Alban, Iwerddon, yr Iseldiroedd ac Awstralia, ond erioed yng Nghymru, tan nawr.

Meddai Erin Riehle, Sylfaenydd a Chyfarwyddwr Project SEARCH: "Rwy'n edrych ymlaen yn fawr at weithio mewn partneriaeth â Phrifysgol Caerdydd ar gyfer rhaglen gyntaf Project SEARCH yng Nghymru...”

Project SEARCH Interns

Cardiff University is one of just three universities in the UK to be involved in Project SEARCH.

The scheme is funded in Wales by the wider Engage to Change project, which works with employers to help young people with learning disabilities and/or autism to develop employment skills through work placements and support into paid employment.

Learning Disability Wales was awarded £10m by the Big Lottery Fund – one of Wales’s largest Lottery grants - to lead a consortium of organisations to deliver Engage to Change. The Getting Ahead 2 grant was developed in partnership with Welsh Government to meet priorities for supporting children and young people.

Cardiff University is researching the success of Project SEARCH through its research team at the National Centre for Mental Health, as part of its evaluation of the whole Engage to Change project.

Project SEARCH started at Cincinnati Children's Hospital Medical Center after its director Erin Riehle wanted to train people with disabilities to fill some of the high-turnover, entry-level positions in her department.

It is now an international phenomenon found in hundreds of locations in USA, Canada, England, Scotland, Ireland, Netherlands and Australia but never previously in Wales.

Erin Riehle, Project SEARCH Founder and Director, said: “I am really excited to be partnering with Cardiff University for the first Project SEARCH programme in Wales..."

"Mae gennym bartneriaeth gref gyda'r Brifysgol, Anabledd Dysgu Cymru, Elite SEA a Choleg Caerdydd a'r Fro, a byddwn yn gwneud yn siŵr y bydd y myfyrwyr yn dysgu sgiliau gwaith gwerthfawr i'w galluogi i gael swyddi da ar ôl gorffen y cwrs."

Erin Riehle , Sylfaenydd a Chyfarwyddwr Project SEARCH

Gyda lwc, bydd y sgiliau y byddant yn eu dysgu yn eu helpu i ddod o hyd o waith cyflogedig amser llawn ac arwyddocaol.

Dywedodd Shane Halton, 18, intern yn yr Ysgol Cemeg: "Cael swydd yw fy nod yn y pen draw a chael profiad fydd yn fy helpu i wneud hynny...”

Shane Halton - Project Search

"Rydw i'n dysgu pethau newydd. Ar y dechrau, roeddwn i'n gwneud taenlenni ar gyfer asesiadau risg a llawlyfrau defnyddwyr.

"Ers hynny, rydw i wedi bod o gwmpas y labordai i wneud yn siŵr bod popeth yn ddiogel a bod pobl yn defnyddio'r offer cywir. Rydw i hefyd wedi bod yn cael gwared ar y cemegau y mae pobl yn eu defnyddio.

"Mynd i'r labordai yw beth ydw i wedi'i fwynhau fwyaf, am fy mod yn hoffi bod ar fy nhraed a dysgu am yr holl wahanol gemegau."

Meddai Hollie Newbury, 21, intern yn Adran Adnoddau Dynol y Brifysgol: "Doeddwn i ddim yn gwybod beth i'w ddisgwyl, ond rydw i wedi bod yn ffeilio ac yn mwynhau'r gwaith..."

Hollie Newbury - Project Search

"Mae pawb yn hynod gyfeillgar a chroesawgar, ac rydw i'n cael gwneud y gwaith yn ôl fy mhwysau fy hun.

"Rydw i'n cael profiad da a hoffwn i gael swydd wedi i'r cyfnod ddod i ben."

Dywedodd yr Athro Elizabeth Treasure, Rhag Is-Ganghellor Prifysgol Caerdydd: "Drwy gydweithio'n agos â Choleg Caerdydd a'r Fro, ELITE SEA ac Anabledd Dysgu Cymru, roeddem yn awyddus iawn i fanteisio ar y cyfle i fod y cyflogwr cyntaf yng Nghymru i gynnig interniaethau yn rhan o'r prosiect gwych hwn...”

"Bydd y Brifysgol yn gallu elwa ar eu sgiliau a bydd y bobl ifanc yn ennill profiad gwerthfawr fydd yn eu rhoi mewn sefyllfa gref wrth chwilio am waith wedi iddynt adael y coleg."

Yr Athro Elizabeth Treasure Deputy Vice-Chancellor, Professor and Honorary Consultant, Dental Public Health

Dywedodd Kay Martin, Dirprwy Brifathro Coleg Caerdydd a'r Fro: "Mae Project SEARCH yn brosiect unigryw ac arloesol i bobl ifanc ag anableddau dysgu. Rydym yn falch iawn o fod y coleg cyntaf, a'r unig goleg yng Nghymru, i gynnig cyfle mor werthfawr fydd yn helpu ein dysgwyr wrth chwilio am waith.

"Fel gyda'n holl ddysgwyr, y nod yn y pen draw yw eu gweld yn datblygu. Mae'r prosiect hwn - sy'n cael ei arwain ar ran Coleg Caerdydd a'r Fro gan Tom Snelgrove, Pennaeth Paratoi ar gyfer Bywyd a Gwaith a'i dîm Sgiliau Byw'n Annibynnol – yn enghraifft wych o hyn drwy gynnig y profiad a'r wybodaeth sydd ar gael mewn amgylcheddau gwaith go iawn mewn sefydliad blaenllaw fel Prifysgol Caerdydd.”

Ar ran y bartneriaeth Ymgysylltu Er Mwyn Newid, meddai Jenna Trakins o Anabledd Dysgu Cymru: "Mae prosiect Ymgysylltu Er Mwyn Newid yn falch o fod wedi sefydlu'r safle Project SEARCH cyntaf yng Nghymru ym Mhrifysgol Caerdydd...”

"Mae'r Brifysgol wedi bod yn anhygoel o gefnogol i'r fenter, ac mae'n galonogol gweld pa mor barod yr ydynt i gynnwys a chroesawu'r interniaid i'r sefydliad. Edrychwn ymlaen at weld sut bydd y bobl ifanc yn datblygu yn ystod eu hinterniaethau."

Jenna Trakins Anabledd Dysgu Cymru

Meddai Chris English, Rheolwr Gweithrediadau ELITE SEA: "Fel un o bartneriaid cyflwyno'r Prosiect Ymgysylltu Er Mwyn Newid, mae'n bleser gan Asiantaeth Cyflogaeth gyda Chefnogaeth ELITE chwarae rhan ym menter gyntaf Project SEARCH yng Nghymru.

"Rydym wedi meithrin perthynas gref gyda Choleg Caerdydd a'r Fro. Gyda chymorth cyflogwr mor bwysig a chefnogol â Phrifysgol Caerdydd, rydym yn hyderus y bydd y prosiect hwn yn llwyddiant ysgubol."

Rhannu’r stori hon

Rydyn ni'n ymroddedig yn ein nod i hyrwyddo cydraddoldeb ar draws y Brifysgol. Mae'r gymuned oll yn elwa o gael poblogaeth amrywiol a thalentog o fyfyrwyr.